Gweinidog yn galw am arolwg i ganlyniadau TGAU Saesneg

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae Leighton Andrews yn galw am adolygiad i ganlyniadau TGAU Saesneg

Mae Gweinidog Addysg Cymru Leighton Andrews yn dweud y bydd arolwg yn cael ei gynnal i ganlyniadau TGAU Saesneg.

Bu gostyngiad yng ngraddau disgyblion eleni, ond yn enwedig mewn arholiadau TGAU Saesneg.

Disgrifiad o'r sainGarry Owen yn holi Anna Brychan, pennaeth Undeb Prifathrawon Cymru yr NAHT

Roedd y gostyngiad i'w weld yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ogystal 芒 Chymru.

Dywed Mr Andrews ei fod eisiau rhagor o wybodaeth am beth ddigwyddodd.

Mae o'n honni fod yna fod yna ormod o ymyrraeth wleidyddol yng nghyfundrefn yr arholiadau TGAU gydag Ysgrifennydd Addysg San Steffan wedi rhoi pwysau ar fyrddau arholi i farcio yn fwy llym.

Ond mae Michael Gove yn gwadu hynny'n llwyr.

Yn y cyfamser mae Pennaeth undeb athrawon NAHT Cymru, Anna Brychan, wedi awgrymu ar raglen y Post Cyntaf ei bod hi'n bryd ystyried system arholiadau annibynnol yng Nghymru.

Mae hi'n cwestiynu am ba h欧d y gall y tensiynau rhwng llywodraethau Prydain a Chymru barhau.

'Anghynaladwy'

"Ni'n gwneud penderfyniadau lled wahanol i'r rhai yn Lloegr.

"Mae'r ymgais i drio cadw'r ddwy system i fynd ochr yn ochr yn mynd yn gynyddol anodd ac efallai yn y pendraw yn anghynaladwy."

Disgrifiad o'r sainGarry Owen yn holi Huw Foster Evans pennaeth Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, a'r Athro Syr Deian Hopcyn

O ran canlyniadau dydd Iau ym mhob pwnc roedd y nifer wnaeth ennill A*-C yng Nghymru yn llai ar 65.4% o'i gymharu 芒 66.5% y llynedd.

Roedd y canlyniadau A*-C ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi gostwng o 69.8% i 69.4%.

Mae'r gwahaniaeth rhwng y canlyniadau yng Nghymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon o ran graddau A8-C bellach yn 4% o'i gymharu 芒 3.3%.

Ond roedd y gwahaniaeth rhwng y rhai sy'n ennill A* neu A yng Nghymru a gweddill y DU wedi lleihau o 3.7% y llynedd i 3.2%.

Roedd 'na gynnydd o 3% yn nifer y rhai wnaeth sefyll TGAU o 282,000 i 291,000.