Rhybudd am 'her wirioneddol' i benaethiaid ysgol

Disgrifiad o'r llun, Mae'r llywodraeth yn bryderus am y canlyniadau TGAU

Mae gan Gymru "her wirioneddol" i wella safonau addysg, yn 么l rhybudd gan Lywodraeth Cymru i brifathrawon wrth iddyn nhw ddychwelyd i'r ysgol ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.

Dywed eu bod yn bryderus yn bennaf am ganlyniadau TGAU iaith Saesneg a gyhoeddwyd fis diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cychwyn ymchwiliad.

Mae swyddfa'r Gweinidog Addysg yn ysgrifennu yn gyson i benaethiaid ysgolion ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.

Ond fe ddaw'r llythyr eleni rai wythnosau ar 么l iddi ddod i'r amlwg bod nifer y disgyblion dderbyniodd raddau A*-C yng Nghymru wedi gostwng am y tro cyntaf mewn dros 10 mlynedd.

Newid manylion

A'r prif bryder yw canlyniadau iaith Saesneg gyda'r llywodraeth yn ymchwilio i pam fod disgyblion wedi gwneud yn waeth na'r disgwyl.

Fe wnaeth canran A*-C yn y pwnc ostwng eleni o 61.3% i 57.4%.

Mae'r llythyr, a ysgrifennwyd gan Chris Tweedale - y prif swyddog a chyfrifoldeb am ysgolion - yn dweud "bod dysgwyr a chanolfannau wedi wynebu manylion newydd a thra gwahanol ar gyfer Saesneg iaith yn 2012 o gymharu 芒 2011".

Fe ddylai penaethiaid chweched dosbarth a thiwtoriaid derbyn mewn colegau, roi ystyriaeth lawn i'r ystod lawn o lwyddiannau'r dysgwyr hyn, nid dim ond sg么r Saesneg iaith sydd efallai'n groes i berfformiad a llwyddiannau cyffredinol y myfyrwyr.

"Er bod y canlyniadau'n galonogol yn rhannol, yn enwedig y graddau uwch ar gyfer Safon Uwch a TGAU, maen nhw'n dangos bod Cymru yn wynebu her fawr o hyd i godi safonau a gwella canlyniadau drwyddi draw."

Cynllun 20 pwynt

Mae'r llythyr yn dweud bod llythrennedd, rhifedd a lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, yn brif flaenoriaethau i Leighton Andrews a bod r么l penaethiaid ysgolion yn "allweddol i'w chwarae o ran sicrhau bod y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith mor llyfn ac effeithiol 芒 phosib".

Yn ddiweddarach yn y mis mae disgwyl i fanylion gael eu cyhoeddi ar weithredu cynllun gweithredu 20 pwynt Mr Andrews.

Cafodd y cynllun ei gyhoeddi ar 么l canlyniadau profion rhyngwladol siomedig i ddisgyblion 15 oed yn 2010.

Dywed y bydd cefnogaeth r gael i ysgolion gan Lywodraeth Cymru ond mae Mr Tweedale yn dweud y cynllun yn "sicrhau canlyniadau gwell fyth i bobl ifanc".

Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr Undeb ATL Cymru, Philip Dixon, bod dyfodol gwell gan gannoedd o ddisgyblion Cymru o ganlyniad i'r llythyr.

"Mae'n dweud wrth benaethiaid am ddefnyddio synnwyr cyffredin wedi helyntion TGAU eleni."

"Mae'n dweud na ddylai pobl ifanc gael eu heffeithio gan benderfyniadau gwleidyddol ond bod 'na ergyd arall i frand TGAU.

"Mae angen edrych o'r newydd ar y system cymhwyso yng Nghymru a hynny i gyd-fynd ag anghenion Cymru a'i phobl ifanc."