Byrddau iechyd yn cynnal ymgynghoriad i drafod ad-drefnu

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Mae Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yn rhan o'r cynlluniau ad-drefnu sydd gan y bwrdd o dan sylw

Dros yr wythnosau nesaf bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus gan Fyrddau Iechyd Hywel Dda a Betsi Cadwaladr er mwyn i'r cyhoedd holi cwestiynau am eu cynlluniau ad-drefnu a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Bydd y cyfarfod cyntaf gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ym Mharc y Scarlets nos Fawrth, Medi 4 am 7pm.

Mae'r bwrdd wedi cyhoeddi cynlluniau ad-drefnu gwasanaethau yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro fis yn 么l.

Ond dywed protestwyr nad yw pryderon staff a chleifion wedi cael eu hystyried.

Yr wythnos diwethaf roedd dros 60 o bobl yn protestio y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, yn erbyn cynlluniau'r bwrdd.

Dyma oedd yr ail brotest i D卯m Gweithredu Achub Llwynhelyg ei chynnal.

Mae'r ymgyrchwyr yn dweud eu bod yn bwriadu cynnal gorymdaith ar Fedi 27 a ddaw i ben ym Mae Caerdydd.

Dywed y bwrdd nad yw'r strwythur presennol yn gallu ymdopi gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a phrinder meddygon.

Gogledd

Fe fydd cyfres o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y gogledd i drafod newidiadau arfaethedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae'r bwrdd wedi cyflwyno dogfen ymgynghorol ar gyfres o ad-drefnu gwasanaethau ysbytai o fewn y bwrdd.

Fe fydd y cyfarfodydd cyntaf yng Nghei Connah ddydd Mawrth am 2pm, 4pm a 6pm.

Dywed y bwrdd "eu bod yn gweithio tuag at newidiadau i wasanaethau iechyd er mwyn gwella gofal y claf".

Daw hyn wedi cyfnod adolygu "estynedig a arweiniwyd gan glinigwyr, staff, y cyhoedd a'n partneriaid".

Mae'r bwrdd yn rhagweld diffyg ariannol o 拢64.6 miliwn eleni.

Cau unedau

O dan gynlluniau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fe all ysbytai cymunedol Y Fflint a Blaenau Ffestiniog gau ac fe all uned man anafiadau sawl ysbyty arall ddiflannu.

Fe fyddai hyn yn cael effaith ar ysbytai Blaenau Ffestiniog, Bae Colwyn, Y Fflint, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun.

Gallai'r adrannau pelydr-X gau ym Mlaenau Ffestiniog, Bryn Beryl ger Pwllheli, Tywyn, Ysbyty Eryri, Yr Wyddgrug a Rhuthun.

Mae'r argymhellion o blaid newid y ddarpariaeth ar gyfer henoed fydd yn golygu cau ward Hafan ym Mryn Beryl a Ward Meirion yn Nolgellau.

Mae 'na bryder y byddai'r gofal dwys newydd-anedig yn cael ei drosglwyddo dros y ffin.

Er mwyn mynychu un o'r cyfarfodydd mae angen cysylltu gyda'r bwrdd ar 0800 678 5297.