Ward yn cau mewn ysbyty

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud taw mesur diogelwch dros dro yw cau ward oherwydd prinder staff.

Y ward yw Afallon yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ac mae cleifion wedi eu had-leoli.

Dywedodd y prif weithredwr, Trevor Purt, fod y gyllideb ar gyfer y ward yn parhau a'r drafferth oedd denu staff.