麻豆官网首页入口

Gweinidog yn galw am ail raddio arholiadau TGAU Saesneg

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion yn sefyll arholiadauFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Leighton Andrews yn galw am adolygiad i ganlyniadau TGAU Saesneg

Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi gofyn am ail raddio papurau arholiadau TGAU Saesneg.

Daw hyn yn dilyn ffrae bod myfyrwyr wedi derbyn graddau is na'r disgwyl pan gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi fis diwethaf.

Roedd Leighton Andrews wedi galw am arolwg.

Mae o'n dweud fod yr arolwg wedi ei berswadio fod rhai cannoedd o fyfyrwyr wedi cael cam.

Mae penderfyniad Mr Andrews yn gwrthgyferbynnu 芒'r sefyllfa yn Lloegr, lle mae'r Gweinidog Addysg yno wedi gwrthod ymyrryd.

Nawr mae disgwyl y bydd rhai cannoedd o fyfyrwyr yn derbyn graddau uwch yng Nghymru.

Ymateb

Dywed undebau ATL (Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr ) a'r NAHT (Undeb y Prifathrawon) eu bod yn croesawu'r penderfyniad.

Fe wnaeth Mr Andrews gyhoeddi ei benderfyniad mewn datganiad ysgrifenedig yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd: "Ar 么l ystyried yn ofalus, mae'r adroddiad yn fy arwain i'r casgliad fod angen ymateb ar frys i'r anghyfiawnder mae rhai cannoedd o fyfyrwyr wedi dioddef.

".... rwyf heddiw wedi gofyn i Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) i ail raddio TGAU Saesneg yn unol ag argymhellion yr adroddiad. "

Mae yna gais hefyd wedi ei wneud i Ofqual, y corff sy'n arolygu papurau yn Lloegr, i gymryd camau tebyg i fyfyrwyr sydd wedi eistedd arholiad CBAC yn Lloegr.

Eleni bu gostyngiad yn nifer y disgyblion wnaeth lwyddo i ennill A*-C TGAU Saesneg yng Nghymru, o 61.3% yn 2011 i 57.4%.

'Cydymdeimlo'

Doedd Cydbwyllgor Addysg Cymru ddim yn cadarnhau nac yn gwadu eu bod yn fodlon ail-raddio'r papurau arholiad, ond fe wnaethon nhw gyhoeddi datganiad sy'n dweud:

"Mae CBAC yn deall ac yn cydymdeimlo 芒'r gofidion a fynegwyd gan ymgeiswyr ac athrawon yng Nghymru a Lloegr yng nghyd-destun canlyniadau TGAU Saesneg yr haf ar draws y sefydliadau dyfarnu i gyd. Ein prif ddiddordeb, fel bob amser, yw sicrhau canlyniadau teg i'n holl ymgeiswyr.

"Yn ei adroddiad mis diwethaf, cadarnhaodd Ofqual bod y graddau a ddyfarnwyd yn Lloegr yn deg. Daeth adroddiad Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, i gasgliad gwahanol yng nghyd-destun yr un dyfarniadau.

"Fel darparwr pwysig o gymwysterau TGAU Saesneg yn y ddwy wlad, mae angen i CBAC dalu sylw i safbwyntiau'r ddau gorff rheoleiddio.

"Mae Llywodraeth Cymru ac Ofqual yn cyd-weithio ar ystod o faterion rheoleiddiol sy'n ymwneud 芒'r broses ddyfarnu yng Nghymru a Lloegr.

"Er enghraifft, yn 2012 roedd y ddau reoleiddiwr ar y cyd wedi mynnu ein bod ni'n gwneud ein dyfarniadau TGAU Saesneg Iaith yn fwy llym ar gyfer gradd C nag oeddem ni wedi awgrymu, trwy ofyn i ni newid ein ffiniau gradd.

"Mae adroddiad Llywodraeth Cymru heddiw yn cadarnhau bod CBAC, yn y dyfarniadau hyn, wedi gweithredu yn 么l yr Amodau Cydnabyddiaeth Cyffredinol sy'n gosod allan y ffyrdd y dylen ni weithredu, a hefyd ein bod wedi cydymffurfio 芒 gofynion penodol y rheoleiddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon."

Addasrwydd y sustem

Wrth ymateb i gyhoeddiad y gweinidog, dywedodd Iestyn Davies ar ran y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru:

"Bydd trafodaethau am ail-farcio papurau arholiad yn newyddion da i fyfyrwyr siomedig, ond rhaid i hyn beidio tynnu'r sylw oddi wrth y mater sylfaenol, sef pa mor addas yw'r sustem gymwysterau yn ei ffurf bresennol i Gymru.

"Rydym yn ategu ein galwad ar Lywodraeth Cymru, drwy ei hadolygiad o gymwysterau i bobl 14-19 oed, i sicrhau bod cymwysterau yng Nghymru yn arfogi pobl ifanc Cymru ar gyfer y farchnad gyflogaeth, i gwrdd 芒 gofynion cyflogwyr Cymru ac i gynyddu cystadleugarwch yn economi Cymru."

Roedd y Ceidwadwyr yng Nghymru yn llawer mwy beirniadol, a dywedodd eu llefarydd ar addysg yng Nghymru, Angela Burns AC:

"Mae'r Gweinidog Addysg yn parhau i syfrdanu gyda'i helfa barhaus am benawdau.

"Rwy'n poeni bod yr ymyrraeth yma - sy'n groes i'r sefyllfa yn Lloegr - wedi cael ei wneud am resymau gwleidyddol yn unig.

"Er bod rhaid i les y disgyblion ddod yn gyntaf bob tro, rwy'n cwestiynu cymhelliad y gweinidog yn y cyhoeddiad yma heddiw."