Ffrae rhwng Michael Gove a Leighton Andrews

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae Leighton Andrews wedi galw am ailraddio canlyniadau TGAU Saesneg

Mae'r ffrae rhwng gweinidogion addysg Bae Caerdydd a San Steffan yn dwys谩au wrth i Michael Gove feirniadu Leighton Andrews yn hallt gerbron pwyllgor aelodau seneddol.

Ddydd Mawrth gorchmynnodd Mr Andrews, Gweinidog Addysg Cymru, Gyd Bwyllgor Addysg Cymru i ailraddio papurau arholiad TGAU Saesneg myfyrwyr yng Nghymru.

Roedd ei benderfyniad yn sgil beirniadaeth fod safonau marcio'r byrddau arholi'n llym.

Ond yn 么l Mr Gove, Gweinidog Addysg San Steffan, roedd y penderfyniad yn "gamgymeriad, yn anghyfrifol" ac yn ymyrraeth wleidyddol.

Honnodd fod Mr Andrews yn ceisio rhoi'r bai ar rywun arall am berfformiad gwael ysgolion Cymru.

Roedd myfyrwyr wedi derbyn graddau is na'r disgwyl pan gafodd canlyniadau TGAU eu cyhoeddi fis diwethaf.

Ac roedd llai o ddisgyblion lwyddodd i ennill A*-C TGAU Saesneg yng Nghymru, o 61.3% yn 2011 i 57.4% eleni.

Mae Mr Gove wedi dweud y bydd ailraddio'n yn golygu bod plant Cymru dan anfantais.

Dywedodd wrth y pwyllgor dethol ar addysg y gallai cyflogwyr Lloegr ystyried na fyddai gradd TGAU yng Nghymru yn cyfateb i un yn Lloegr.

'Hyderus iawn'

Erbyn diwedd dydd Mawrth cyhoeddodd Mr Andrews ei fod yn rhoi cyfarwyddwyd i'r corff arholi ailraddio.

"Rydym yn hyderus iawn yn yr hyn rydym wedi ei wneud.

"Yn ymarferol rwy'n credu y bydd cannoedd o fyfyrwyr yng Nghymru yn cael graddau uwch, ac y byddan nhw'n cael graddau mwy tebyg i'r hyn yr oedden nhw'n disgwyl ei gael."

Mae yna gais hefyd i Ofqual, y corff sy'n arolygu papurau yn Lloegr, gymryd camau tebyg i fyfyrwyr sydd wedi sefyll arholiad CBAC yn Lloegr.

"Does gennym ni ddim pwerau dros beth sy'n digwydd yn Lloegr," meddai Mr Andrews.

"Ond fe allai Ofqual orfod amddiffyn eu methodoleg yn y llysoedd."

Roedd CBAC wedi ceisio cytundeb rhwng y rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd llefarydd: "Rydym mewn sefyllfa anodd ac annisgwyl, gydag oblygiadau ar gyfer ein holl ymgeiswyr yng Nghymru a Lloegr.

"Yn yr haf, gweithredodd CBAC yn 么l cyfarwyddyd ein rheoleiddwyr ar y cyd i ostwng ein dyfarniadau TGAU Saesneg Iaith ar Radd C , er mwyn sicrhau "canlyniadau cymaradwy.

"Rydym mewn sefyllfa ble mae un o'r rheoleiddwyr yn cadarnhau bod y penderfyniad hwn yn gywir, ac un arall yn gofyn i ni ail-raddio, gan ddisodli'r cyd-benderfyniad gwreiddiol."

Cael cam

Roedd Mr Andrews wedi dweud bod arolwg yr oedd wedi ei gomisiynu wedi ei berswadio fod cannoedd o fyfyrwyr wedi cael cam.

Ddydd Mawrth dywedodd Amanda Spielman, Cadeirydd Ofqual, wrth aelodau Pwyllgor Dethol ar Addysg fod yna "wahaniaeth clir" ym mherfformiad myfyrwyr o Loegr a Chymru.

"Mae yna anhawster gwleidyddol yng Nghymru. Mae yna wahaniaeth clir rhwng perfformiadau myfyrwyr o Loegr o gymharu 芒 rhai o Gymru.

".....yr ensyniad yw nad yw perfformiad myfyrwyr o Gymry yn gwella. Mae hyn yn ganlyniad anodd i'r Cymry i'w dderbyn yn wleidyddol ..."