TGAU: Andrews yn taro'n 么l

Mae Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wedi cyhuddo Ysgrifennydd Addysg San Steffan o danseilio hyder rhieni yn arholiadau TGAU.

Cyhuddodd Mr Andrews Michael Gove o geisio cychwyn "ffrae wleidyddol".

Mae'r ddau yn anghydweld am ailraddio arholiadau TGAU Saesneg gan Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC).

Dywedodd Mr Gove bod Mr Andrews yn "anghyfrifol" am orchymyn CBAC i ailraddio papurau myfyrwyr o Gymru.

'Ffeithiau'

Wrth ymateb, dywedodd Mr Andrews: "Yn amlwg, mae'n iawn iddo fe geisio troi argyfwng cynyddol yn Lloegr yn ffrae wleidyddol gyda Llafur yng Nghymru ond rydym ni am gadw at y ffeithiau a'r mater sylfaenol dan sylw.

"Mae'r disgyblion sydd yng nghanol y llanast yma'n haeddu atebion nid chwarae gemau gwleidyddol."

Cyhuddodd Mr Gove o wneud sylwadau unochrog oedd yn difetha'r cytundeb ynghylch arholiadau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae gan Yr Alban sustem arholi eu hunain.

Llywodraeth Cymru sy'n rheoleiddio arholiadau yng Nghymru, ond yn Lloegr Ofqual sy'n gwneud y gwaith ac maen nhw wedi dweud nad ydyn nhw'n credu bod angen ailraddio papurau.

'Anghywir'

Yn gynharach dywedodd Mr Gove wrth bwyllgor Aelodau Seneddol fod penderfyniad Mr Andrews i orchymyn ailraddio yn "anghyfrifol ac yn gamgymeriad", a'i fod yn "ymyrraeth gwleidyddol gofidus".

Honnodd fod gweinidog Cymru wedi cael ei hun mewn trafferth ac wedi ceisio taflu'r bai am berfformiad gwael yn ysgolion Cymru.

"Mae e'n anghywir ac mae plant Cymru yn dioddef," meddai.

Rhybuddiodd hefyd y gallai cyflogwyr yn Lloegr benderfynu yn y dyfodol na fyddai pasio arholiad yng Nghymru yn cyfateb i ganlyniad tebyg yn Lloegr.

Mynnodd Mr Andrews ei fod wedi gweithredu "ar sail tystiolaeth gywir a chyngor er mwyn sicrhau bod buddiannau disgyblion Cymru'n cael eu gwarchod".

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Michael Gove bod penderfyniad Mr Andrews yn "anghyfrifol"

Bu cwymp yn nifer y disgyblion lwyddodd i ennill A*-C TGAU Saesneg yng Nghymru o 61.3% yn 2011 i 57.4% eleni.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i gannoedd o ddisgyblion gael graddau gwell o ganlyniad i'r ailraddio.

Yn y cyfamser, dywedodd CBAC eu bod wedi dilyn gofynion rheoleiddwyr arholiadau yng Nghymru a Lloegr i wneud y ffiniau rhwng graddau C a D yn "fwy llym".

'Anodd'

Fe wnaeth 34,000 o ddisgyblion yn Nghymru sefyll arholiad Saesneg CBAC, ond hefyd 84,000 o ddisgyblion yn Lloegr.

Mae CBAC am i Lywodraeth Cymru sicrhau cytundeb gydag Ofqual am eu bod wedi cael eu rhoi mewn sefyllfa "anodd ac annisgwyl".

Mae Ofqual wedi gofyn am drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am oglybiadau penderfyniad Mr Andrews.

Galwodd llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar addysg, Angela Burns, am gael corff hyd braich i reoleiddio'r arholiadau yng Nghymru, ac am gael adroddiad annibynnol i ganlyniadau TGAU.