麻豆官网首页入口

TGAU: 'Bydd cwmn茂au Cymru'n addasu'

  • Cyhoeddwyd
Pupils sitting exam
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae adolygiad am newidiadau i'r TGAU yng Nghymru yn digwydd ar hyn o bryd

Fe fydd prifysgolion a chyflogwyr yn gallu addasu os bydd Cymru'n mabwysiadu system gymwysterau ei hun, medd undeb athrawon.

Mae disgwyl i lywodraeth y DU gyhoeddi system newydd gydag un arholiad i gymryd lle'r TGAU presennol o 2015 ymlaen a bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud penderfyniad am y dyfodol ym mis Tachwedd.

Ond mae Anna Brychan o undeb yr NAHT yng Nghymru wedi dweud nad digwyddiadau yn Lloegr oedd yn bwysig.

Y flaenoriaeth, meddai, oedd beth mae myfyrwyr yn ei ddysgu, sgiliau a sut i fesur llwyddiant, ac nad cymharu un model yn erbyn y llall ddylai gael sylw.

'Cyfarwydd'

"Fe fydd yna beth pryder am adael model sydd wedi bod yn gyfarwydd i ni ers tro," dywedodd Ms Brychan wrth 麻豆官网首页入口 Cymru.

"Rhaid i ni sicrhau bod y cymwysterau yng Nghymru yn cael eu parchu, a'u bod yn cynnig i gyflogwyr a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch fyfyrwyr sydd 芒'r sgiliau y maen nhw'n chwilio amdanynt."

Dywedodd ei bod yn "berffaith ymarferol" i Gymru greu system wahanol.

Bydd y newidiadau yn Lloegr a fydd yn cael eu cyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove, yn ddiweddarach yn gweld y TGAU presennol yn diflannu a sustem fwy llym yn cymryd eu lle.

Fe fydd asesiadau yn seiliedig ar un arholiad ar ddiwedd blwyddyn, tebyg i'r hen lefel-O.

'Hyder'

Yn flaenorol dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, na fyddai Cymru'n dychwelyd i arholiadau tebyg i'r lefel-O beth bynnag fydd canlyniad adolygiad Llywodraeth Cymru.

Mae arholwyr yng Nghymru wrthi'n ail-farcio papurau TGAU Saesneg gan fwrdd arholi Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) wedi i Mr Andrews orchymyn hynny.

Roedd Mr Gove yn feirniadol o'r penderfyniad, gan ddweud y byddai'n "tanseilio hyder" yng ngwerth y cymhwyster.

Ond mae'r Athro Ken Reid o Brifysgol Fetropolitan Abertawe wedi amddiffyn y TGAU.

Dywedodd: "Y broblem yw nad yw'r asgell dde wleidyddol wedi bod yn hapus gyda'r TGAU ers i'r cymhwyster gael ei fodiwlareiddio ychydig flynyddoedd yn 么l, gan eu bod yn credu bod y cymhwyster yn rhy hawdd.

"Ar hyn o bryd y teimlad o fewn Cymru yw bod y system TGAU bresennol yn ddigonol i'n hanghenion.

"Rwy'n credu y bydd newidiadau i'r system gymhwyso yng Nghymru yn y dyfodol agos o ganlyniad i'r adolygiad. Rwy'n credu y byddwn yn aros gyda'r TGAU, ond efallai yn symud yn agosach at system Yr Alban, ac rwy'n credu y bydd y fagloriaeth Gymreig yn dal yn rhan o hynny.

"Mae hynny wedi dod yn bwysig gan fod y gweinidog yn awyddus i bwysleisio'r elfen sgiliau, ac yn enwedig pwysleisio llythrennedd a rhifedd y disgyblion."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol