Trafod cynlluniau iechyd yn y gogledd orllewin

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Cafodd deiseb i gadw Ysbyty Blaenau Ffestiniog ar agor ei chyflwyno i gadeirydd y bwrdd iechyd ddydd Mercher

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ym Mhwllheli nos Wener i drafod cynlluniau ad-drefnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Hwn fydd y diweddar mewn cyfres o gyfarfodydd oherwydd newidiadau arfaethedig.

Gallai'r adrannau pelydr-X gau ym Mlaenau Ffestiniog, Bryn Beryl ger Pwllheli, Tywyn, Ysbyty Eryri, Yr Wyddgrug a Rhuthun.

Mae argymhellion o blaid newid y ddarpariaeth ar gyfer henoed yn golygu cau ward Hafan ym Mryn Beryl a Ward Meirion yn Nolgellau.

Mae yna nifer o newidiadau eraill fydd yn effeithio ar ddarpariaeth gofal iechyd yn y gogledd.

Dadleuol

Ymhlith yr argymhellion mwyaf dadleuol yw'r un i gau Ysbyty Blaenau Ffestiniog ac Ysbyty'r Fflint.

Mae'n bosib y bydd unedau m芒n anafiadau Blaenau Ffestiniog, Bae Colwyn, Y Fflint, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun yn cau.

Daw'r argymhellion ar ddiwedd adolygiad, proses oedd weithiau'n ddadleuol iawn, a gychwynnodd yn 2009.

Nod yr adolygiad, yn 么l y bwrdd iechyd, yw gwella safon, diogelwch, dibynadwyedd ynghyd 芒 rheoli neu leihau costau yn wyneb cynnydd yn y boblogaeth.