麻豆官网首页入口

Tro pedol ynghylch cau dwy ysgol

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Llanfair Llythynwg , PowysFfynhonnell y llun, Friends of Gladestry School
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 41 disgybl yn Ysgol Llanfair Llythynwg ar hyn o bryd

Mae cabinet Cyngor Powys wedi cymeradwyo cynllun i geisio cadw dwy ysgol oedd dan fygythiad ar agor.

Penderfynodd aelodau'r cabinet gymeradwyo cais i gau Ysgol Bugeildy ond dechrau'r broses ymgynghori yngl欧n 芒'r posibilrwydd o gadw ysgolion Llanfair Llythynwg ac Hwytyn ar agor.

Y nod yw'r posibilrwydd o greu ysgol ffederal rhwng Ysgol Llanfair Llythynwg ac Ysgol Dyffryn Maesyfed ac Ysgol Ffederal rhwng Ysgol Hwytyn ac Ysgol Llanandras.

Yn gynharach eleni roedd y cyngor wedi cyflwyno cynlluniau i gau ysgolion Llanfair Llythynwg, Bugeildy ac Hwytyn yn nalgylch Ysgol John Beddoes yn Sir Faesyfed a symud disgyblion i Ysgol Tre'r Clawdd, Ysgol Llanandras neu Ysgol Dyffryn Maesyfed.

Roedd y cyngor wedi dweud nad oedd y niferoedd isel yn yr ysgolion yn cynnig gwerth am arian ac y byddai cau'r tair ysgol yn arbed 拢232,000.

Yng Ngorffennaf protestiodd rhieni a disgyblion yn erbyn cau ysgolion Llanfair Llythynwg, Bugeildy a Hwytyn.

Wyth milltir

Teithiodd ymgyrchwyr o'r tair ysgol ar fws o Ysgol Llanfair Llythynwg i Ysgol Tre'r Clawdd er mwyn tynnu sylw at hyd y daith wyth milltir.

Yn y cyfamser, mae'r cabinet wedi cymeradwyo cynllun fydd yn effeithio ar addysg gynradd yn nalgylch Ysgol Uwchradd Gwernyfed yn Sir Frycheiniog.

Bydd Ysgol Rhosgoch yn cau erbyn mis Awst 2013 a'r disgyblion yn symud i Ysgol Cleiro.

Y bwriad yw adeiladu ysgol gynradd newydd yng Nghleiro yn lle'r ysgol bresennol.

Penderfynodd y cabinet ddechrau proses ymgynghori oherwydd cau Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff yn Aberhonddu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol