Hwb ariannol i sgiliau llythrennedd

Ffynhonnell y llun, PA

Mae prosiect sydd 芒'r nod o wella sgiliau llythrennedd yng Nghymru trwy ddod 芒 phobl ynghyd i ddarllen yn uchel ymysg y rhai sy'n rhannu mwy nag 拢1.9 miliwn gan Gronfa'r Loteri Fawr.

At ei gilydd, mae 拢1,992,425 yn cael ei ddyfarnu trwy raglen Pawb a'i Le Cronfa'r Loteri Fawr i gefnogi 13 o brosiectau ar draws Cymru.

Mae'r Reader Organisation yn derbyn 拢236,309 i helpu pobl ledled gogledd Cymru 芒 sgiliau llythrennedd gwael trwy lansio grwpiau Get into Reading.

Bydd tua 480 o bobl yn elwa o'r cynllun sy'n cael ei lansio yng Nghymru am y tro cyntaf.

'Hyder personol'

Amcan y prosiect yw ennyn "chwyldro darllen" trwy sefydlu grwpiau darllen mewn rhannau o gymdeithas efallai nad oes ganddynt fynediad hwylus i gampweithiau llenyddol.

Bydd mwy na 30 o grwpiau'n cwrdd unwaith yr wythnos, yn darllen yn uchel o gyfrol ac yn trafod unrhyw bynciau neu feddyliau sy'n codi yn ystod y darlleniad.

Dywedodd Chris Catterall, dirprwy gyfarwyddwr The Reader Organisation: "Mae ein grwpiau Get Into Reading yn cwrdd bob wythnos i ddarllen yn uchel gyda'i gilydd, felly maent yn hygyrch i bobl o bob oedran, cefndir a gallu.

"Maen nhw'n darparu cysylltiadau cymdeithasol rheolaidd, gan ganiat谩u i bobl gysylltu 芒'i gilydd, yn ogystal 芒 chynyddu hyder personol a gwella lles emosiynol.

"Trwy ymgynghori ag aelodau'r gymuned leol a mudiadau lleol, rydym wedi adnabod gwir angen am y gwaith hwn yng ngogledd Cymru, ac rydym wrth ein boddau bod gennym y cyfle i ddod ag effeithiau cadarnhaol dysgu a rennir i'r ardal."

Bydd yr Uned Ddiogelwch Camdriniaeth Ddomestig yn Sir y Fflint yn defnyddio 拢247,826 i ddarparu gwasanaeth allgymorth a datblygu ar gyfer pobl sy'n cael eu heffeithio gan gamdriniaeth ddomestig.

Addysg a hyfforddiant

Bydd yn defnyddio'r arian i gefnogi 50 o bobl bob blwyddyn ac yn cyflwyno sesiynau gr诺p a boreau coffi - y maent i gyd 芒'r nod o wella lles corfforol a meddyliol hir dymor y dioddefwyr.

Yn Sir Ddinbych, bydd Cynnig Glynd诺r Cyf yn derbyn 拢191,548 i ddarparu rhaglen o weithgareddau cymdeithasol ar gyfer 300 o bobl ag anawsterau dysgu.

Bydd hyn yn cynnwys sesiynau wythnosol o gelf, crefft, coginio, cerddoriaeth, drama, cerdded a gwibdeithiau i roi hwb i hyder a lleihau unigedd.

Mae prosiectau yn Ne Cymru hefyd yn elwa o'r rownd ddiwethaf gan gynnwys Fferm Gymunedol Abertawe a fydd yn gwario 拢249,817 ar ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi ar gyfer oedolion a phobl ifanc difreintiedig yn y fferm.

Hefyd yn y ddinas honno, mae Canolfan Gofalwyr Abertawe yn derbyn 拢238,106 i ddarparu rhaglen addysg a hyfforddiant ar gyfer pobl 16 oed a throsodd sy'n ofalwyr i oedolion.

Mae adeiladau a chyfleusterau cymunedol hefyd ar fin elwa, gan gynnwys Neuadd Goffa Hood yn Sir Fynwy, sy'n derbyn 拢37,987 i adnewyddu'r gegin a'r toiledau, a bydd Cymdeithas Tai Linc Cyf yn derbyn 拢156,724 i greu cyfleuster cymunedol yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd.

Bydd buddion Cymru gyfan hefyd diolch i'r 拢180,579 a ddyfarnwyd i Solicitors Pro Bono Group. Bydd yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i bobl a grwpiau cymunedol bach sy'n cael eu heffeithio gan incwm isel neu anableddau na allant gael mynediad i gymorth cyfreithiol neu dalu ffioedd cyfreithiol.