Diwedd ymgynghoriad iechyd yn y gogledd

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Disgrifiad o'r llun, Mae'r bwrdd wedi bod yn ymgynghori efo'r cyhoedd ers wythnosau

Mae ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar newidiadau i'r gwasanaeth gofal yn y gogledd yn dod i ben.

Dydd Sul ydi dyddiad olaf yr ymgynghoriad ar y cynigion sy'n cynnwys cau ysbytai, cau gwasanaethau lleol ac unedau.

Ymhlith yr argymhellion mwyaf dadleuol yw'r un i gau Ysbyty Blaenau Ffestiniog ac Ysbyty'r Fflint a chau unedau m芒n anafiadau ym Mae Colwyn, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun.

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r bwrdd wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws y gogledd i drafod eu dogfen "Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid".

"Rydym wedi cael llawer o bobl yn cynnig eu barn, cymryd rhan mewn trafodaethau a chynnig dulliau amgen o weithredu," meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio'r Bwrdd Iechyd, Neil Bradshaw.

Gorymdeithiau

Fe fydd y bwrdd yn ystyried y sylwadau a gafwyd nawr cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae meddygon teulu, meddygon ysbyty, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill wedi cydweithio i ystyried sut mae modd gwneud gwasanaethau gofal iechyd yn well.

Cafodd cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol a llawer o bobl eraill gyfle hefyd i leisio barn.

Cafwyd gorymdeithiau mewn nifer o ardaloedd wrth i'r bwrdd gynnal cyfarfodydd.

Ym Mlaenau Ffestiniog dywedodd Gwilym Price, is-gadeirydd pwyllgor amddiffyn Ysbyty Goffa'r dref, ei fod yn derbyn bod angen arbed arian.

"Ond pam na fyddan nhw'n edrych o'r top i lawr i wneud toriadau?

"Mae gennym ni enghreifftiau gwych o wastraff ... ac mae'r hyn mae'r ysbyty yn ei gostio i'r bwrdd drwy ogledd Cymru yn ddim mwy na 拢800,000.

"Mae'n ysbyty sy'n 80 oed ac mae wedi rhoi gwasanaeth teilwng iawn i'r dref ers 1925."

Yn Y Fflint roedd torf sylweddol wedi ymgasglu i wrthwynebu'r cynlluniau.

"Mae agwedd y bwrdd iechyd wedi bod yn drahaus ...," meddai Jack Reece, cadeirydd y mudiad ymgyrchu.

"A dweud y gwir mae'r holl dre' wedi cael hen ddigon a phawb yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd heddiw."

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Mary Burrows, na all pethau aros fel y maen nhw nawr.

'Gofal arbenigol'

"Nid yw 'peidio 芒 newid' yn opsiwn.

"Bwriad y cynigion rydym yn eu gwneud ar hyn o bryd yw newid y ffordd bydd gwasanaethau'n cael eu darparu a ble maen nhw'n cael eu darparu er mwyn bodloni safonau ansawdd.

"Ein nod yw gwella iechyd, nid ymestyn oes yn unig.

"Rydym yn credu y dylai gwasanaethau fod yn agos at le mae pobl yn byw pryd bynnag bo hynny'n ddiogel a phriodol.

"Pan fydd angen gofal mwy arbenigol, rhaid i ysbytai ddod yn ganolfannau rhagoriaeth fel bod y gofal gorau posibl ar gael pan fydd angen ac oddi wrth y bobl gywir."

Os bydd y Bwrdd yn penderfynu mynd rhagddo 芒'r cynigion, bydd newidiadau'n dechrau yn gynnar yn 2013 芒'r nod yw gorffen y newidiadau erbyn 2015.