麻豆官网首页入口

Beirniadu ysbyty Bronglais am 'faw a llwch' ar ward

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr archwiliad ar hap ei gynnal ym mis Mehefin eleni

Mae Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth wedi ei beirniadu am bresenoldeb baw, llwch ac annibendod ar un o'r wardiau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau mae'r AGIC hefyd yn dweud nad oedd rhai cleifion wedi cael eu hasesu neu nad oeddent wedi derbyn cynllun gofal personol ar ddwy ward.

Cafodd yr archwiliad ddirybudd ei gynnal yn wardiau Iorwerth a Cheredig yr ysbyty ym mis Mehefin eleni.

Dywed yr adroddiad hefyd fod staff oedd yn gweithio ar y ddwy ward wedi dangos agwedd proffesiynol a sensitif tuag at gleifion a'u bod yn darparu gofal mewn modd trugarog iawn.

'Sensitif, proffesiynol a thrugarog'

Ond ychwanegodd yr arolygwyr fod ward Iorwerth yn llawn baw a llwch ar loriau, waliau a drysau.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Dr Peter Higson: "Mae'r archwiliadau yn bwysig er mwyn rhoi sicrwydd i gleifion a'r cyhoedd.

"Nodwyd meysydd o arfer da yn ystod yr arolygiad dirybudd a gynhaliwyd yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn ogystal 芒 meysydd y mae angen i'r Bwrdd Iechyd eu gwella."

Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth, Caroline Oakley: "Nod ein bwrdd iechyd yw trin pob unigolyn ag urddas a pharch ac mae'n galonogol bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi nodi, yn gyffredinol, bod ein staff yn sensitif, proffesiynol a thrugarog, a bod adborth cleifion yn gadarnhaol iawn.

"Rydym yn siomedig, ac yn ymddiheuro, bod yr arolwg wedi nodi nad oeddwn yn cyrraedd rhai o'r safonau uchel rydym yn eu gosod i ni eu hunain yn ystod yr arolwg.

"Rydym wedi cymryd camau i weithredu'n syth i fynd i'r afael 芒'r materion hyn ac rydym wrthi'n monitro hyn ac yn wneud gwelliannau pellach drwy'r amser."