Cytuno ar gyllideb i Wasanaeth Ambiwlans Cymru

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab

Disgrifiad o'r llun, Bu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru heb gyllideb ers mis Ebrill

Mae cyllideb ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi ei chytuno deuddydd wedi i 麻豆官网首页入口 Cymru nodi trafferthion gydag ariannu'r gwasanaeth.

Honnwyd y gallai cleifion fod mewn perygl gan nad oedd y gwasanaeth yn gwybod yn union faint o arian oedd ganddynt i wario eleni.

Deellir bod rhai aelodau o'r bwrdd yn bryderus iawn am y sefyllfa.

Ond bellach mae Byrddau Iechyd Cymru a'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi cyrraedd cytundeb terfynol am gyllideb eleni.

Ansicrwydd

Bu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru heb gyllideb ers mis Ebrill, ac roedd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn poeni y gallai'r ansicrwydd am arian gael effaith ar gleifion.

Roedd yr ystadegau diweddaraf a gyhoeddwyd ddydd Mercher yn dangos bod y gwasanaeth wedi methu targedau o ymateb i 65% o alwadau argyfwng o fewn yr wyth munud sy'n cael ei ganiat谩u am y pedwerydd mis yn olynol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r byrddau iechyd oedd yn gyfrifol am ariannu'r gwasanaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cydffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru - sy'n cynrychioli'r holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru - eu bod wedi cytuno ar gyllideb yn dilyn "trafodaethau positif".

"Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gweithio'n galed i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol er mwyn cleifion yng Nghymru, ac y bydd yr ymddiriedolaeth a'r byrddau iechyd yn parhau i gydweithio i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd.

Amrywio

Ym mis Medi, cafwyd dros 33,700 o alwadau brys i'r gwasanaeth - bron 2% yn is na mis Awst - ac roedd dros 13,400 o'r rheini yn alwadau categori A, sef galwadau argyfwng lle mae bywydau mewn perygl.

Llwyddodd y gwasanaeth i ymateb i 64.2% o'r galwadau categori A o fewn wyth munud.

Y targed ymateb i bob ardal awdurdod lleol yw 60%, a llwyddodd 14 o'r 22 ardal gyrraedd y nod.

Roedd perfformiad yn amrywio o 53.9% ym Mlaenau Gwent i 74.9% yn Wrecsam.