Adolygiad o'r gwasanaeth ambiwlans

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Bydd yr adolygiad yn edrych ar bob agwedd o'r gwasanaeth

Mae'r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi cyhoeddi adolygiad o'r gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru.

Tra'n gwneud y cyhoeddiad yn y senedd nos Fercher fe ddywedodd y byddai'n edrych ar bob agwedd o'r gwasanaeth gan gynnwys perfformiad, cyllid a'r berthynas gyda'r byrddau iechyd lleol.

Mae'r gwasanaeth wedi bod o dan y lach yn ddiweddar am fethu a chyrraedd ei dargedau o ran amser ymateb sawl gwaith eleni.

Gwadodd Mrs Griffiths honiadau fod ffrae yngl欧n 芒 chyllid wedi golygu nad oedd gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gyllideb.

Mae'r ymddiriedolaeth yn derbyn y rhan helaeth o'i chyllid gan bwyllgor sy'n cynnwys penaethiaid saith bwrdd iechyd Cymru.

Oedi

Er bod y dyddiad cau am drafodaethau ynghylch y gyllideb ym mis Mehefin ni chytunwyd ar y gyllideb derfynol am 2012/13 tan Dachwedd 2, ddeuddydd wedi i 麻豆官网首页入口 Cymru amlygu'r oedi.

Dywedodd Mrs Griffiths fod dyraniad ariannol craidd y gwasanaeth wedi cael ei gytuno ym mis Ebrill a bod y trafodaethau diweddar yn ymwneud ag "addasu'r gyllideb yng nghanol y flwyddyn ariannol".

"Bydd hwn yn adolygiad cynhwysfawr ac yn delio 芒'r perthynas 芒 byrddau iechyd, targedau, y posibilrwydd o newid y trefniadau cyfredol, a'r perthynas rhwng gwasanaethau arferol a gwasanaethau brys o ran cludo cleifion."

Mae swyddogion wedi cael eu gofyn i greu cylch gorchwyl erbyn diwedd y mis.

Naw adolygiad

Dywedodd yr Aelod Cynulliad, Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol mai hwn fyddai'r nawfed adolygiad o'r fath.

Dywedodd wrth Mrs Griffiths yn ystod ddadl yn y senedd am y gwasanaeth ambiwlans: "Mae'n edrych yn debyg i mi fod yn rhaid i chi ddod i'r afael 芒'r mater hwn ac rwy'n amau mai adolygiad yw'r ateb."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, mewn datganiad: "Mae tystiolaeth ar draws Gymru yn dangos bod ein gwasanaeth ambiwlans ar fin torri.

"Mae unrhyw ansicrwydd ariannol yn ychwanegu at yr helbul sy'n wynebu rheolwyr a pharafeddygon y gwasanaeth ambiwlans.

"Gallai'r broblem gael ei ddatrys heb adolygiad.

"Dyna gyd sydd angen yw ariannu'r ymddiriedolaeth yn uniongyrchol a bod y Gweinidog yn cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol amdani."