麻豆官网首页入口

Llywodraeth Cymru yn apelio ar George Osborne am dwf economaidd

  • Cyhoeddwyd
George OsborneFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y Canghellor George Osborne yn gwneud y cyhoeddiad ddydd Mercher

Mae Llywodraeth Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill wedi galw am wariant i adfywio'r economi wrth i'r Canghellor George Osborne baratoi i gyflwyno datganiad yr hydref.

Yn y datganiad mae 拢5 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf wedi ei neilltuo ar roi hwb i dwf economaidd.

Fe ddaw'r arian oherwydd cyfyngu ar wariant dyddiol adrannau Whitehall a bydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru ar eu hennill.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ac arweinwyr llywodraethau Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi rhybuddio beth fydd effeithiau andwyol toriadau gwariant ar yr economi.

Ac maen nhw wedi mynnu na ddylid atal toriadau cyllidebau cyfalaf ar gyfer prosiectau isadeiledd.

Hwb dros yr haf

Cafodd cyflwr yr economi ei groesawu er ei fod yn sgil hwb dros dro yn yr haf.

Eisoes mae Mr Osborne wedi honni bod pawb yn wynebu yr un problemau economaidd.

Hawliodd fod y gwariant ar fudd-daliadau i lawr a bod lefelau treth incwm miliynau o bobol wedi gostwng.

Mae Llafur wedi dweud bod ei bolis茂au'n ddiffygiol.

Mewn datganiad dywedodd arweinwyr y llywodraethau datganoledig na fyddai cynlluniau hybu'r sector preifat yn dwyn ffrwyth am beth amser.

"Ar y llaw arall, mae hwb uniongyrchol i'r sector cyhoeddus yn mynd i gefnogi swyddi a'r strwythur angenrheidiol ar gyfer twf economaidd hir dymor.

"Mae datganiad yr hydref yn rhoi cyfle i'r Canghellor ymateb i her yr economi a rhoi ysgogiad sylweddol ac uniongyrchol i fuddsoddiad cyfalaf."

Mae nifer o gyllidebau Whitehall yn wynebu 1% ychwanegol o doriad y flwyddyn nesa' a 2% y flwyddyn ganlynol.

Mwy o amser

Dros y penwythnos cyfaddefodd y Canghellor y byddai angen mwy o amser i dorri'r ddyled ond bod Llywodraeth Glymblaid San Steffan "yn ennill tir".

Mae datganiad yr hydref ddiwrnod ar 么l i Aelodau'r Cynulliad gymeradwyo cyllideb 拢15 biliwn Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Gan fod Llywodraeth San Steffan wedi cwtogi gwariant cyfalaf mae Gweinidogion Cymru yn chwilio am ffyrdd eraill i ariannu isadeiledd.

Cyhoeddon nhw y bydden nhw'n benthyg 拢500 miliwn ar gyfer gwella'r A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd, a gwella adeiladau ysgolion.

Bydd datganiad yr hydref yn rhagflas o'r hyn fydd yn y Gyllideb yn y Flwyddyn Newydd.

Fe allai Mr Osborne osod cyd-destun gwleidyddol ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol