Llywodraeth Cymru yn rhoi 拢82m yn fwy i'r Gwasanaeth Iechyd

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi 拢82 miliwn yn ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Roedd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi dweud ym mis Tachwedd 2011 na fyddai mwy o arian ar gael na fyddai mwy o arian ar gael i'r gwasanaeth pe bai'n mynd i ddyled eto eleni.

Ond yna bythefnos yn 么l dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru y gallai dyled y gwasanaeth fod cymaint 芒 拢130 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol ym mis Ebrill 2013.

Dywedodd Ms Griffiths bod yr arian yn cael ei roi oherwydd "pwysau digynsail" ar y gwasanaeth eleni wrth iddi gyhoeddi ei hadolygiad canol blwyddyn o'r gwasanaeth.

Pwysau sylweddol

Mae'r adolygiad yn pwysleisio ymdrechion y gwasanaeth i gadw lefelau perfformiad, gan gynnwys triniaeth gyflymach am str么c, llai o achosion o salwch fel MRSA sy'n cael eu dal mewn ysbytai a lleihau rhestrau aros am driniaeth orthopedig

Ond mae'r adolygiad hefyd yn dangos cynnydd o 10% yn nifer y cleifion dros 85 sy'n mynd i'r ysbyty - sy'n llawer uwch na'r rhagolygon - gan roi pwysau sylweddol ar y gwasanaeth.

Mae'r 拢82 miliwn o arian wrth gefn sydd wedi ei roi i'r gwasanaeth yn cyfateb i 1.5% o gyllideb y gwasanaeth.

'Heriol'

Dywedodd Ms Griffiths: "Tra bod yr adolygiad yn dangos nifer o welliannau safon o fewn y gwasanaeth yng Nghymru, mae newid yn y demograffig yn cael mwy o effaith ar y gwasanaeth na'r rhagolygon gwreiddiol.

"Mae'r cynnydd yn nifer y cleifion dros 85 oed sy'n mynd i'r ysbyty ar frys yn golygu aflonyddu ar wasanaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw...mae risg o dargedau'n cael eu methu.

"Bydd yr arian ychwanegol yn caniat谩u i'r gwasanaeth reoli'r pwysau presennol a chadw safon y gofal.

"Mae'n bwysig cydnabod bod y gwasanaeth yn un o'r sefyllfaoedd mwyaf heriol o safbwynt arian.

"Dyna pan yr wyf wedi ymrwymo i gyflwyno newidiadau i drefn gyllidol i wasanaeth gan gynnwys adolygiad o sut y gallwn ddarparu trefn ariannol fwy hyblyg fel y mae'r Archwilydd Cyffredinol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi argymell.

"Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach am hynny maes o law.

"Mae'r adolygiad hwn yn cefnogi'r datganiad bod angen newidiadau i'r gwasanaeth er mwyn sicrhau gwasanaethau iechyd cynaliadwy i'r dyfodol.

"Bydd y newidiadau, sy'n cynnwys ehangu'r ddarpariaeth o ofal iechyd yn y gymuned, yn help i roi gwasanaethau iechyd ar seiliau cadarnach drwy gadw pobl allan o'r ysbytai."