230,000 o gartrefi i dderbyn bil treth gyngor am y tro cyntaf

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Bydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio ar y rheoliadau am yr eildro ar Ragfyr 19

Bydd tua 230,000 o gartrefi yn talu'r dreth gyngor am y tro cyntaf os fydd rheoliadau newydd yn cael eu cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Efallai mai dim ond cyfran gymharol fechan o'r dreth y bydd rhai yn gorfod ei dalu, ond mae pryderon y gallai'r newid ychwanegu at y pwysau ar wasanaethau cyngor ariannol.

Bydd y 330,000 o aelwydydd sy'n derbyn budd-dal treth gyngor ar hyn o bryd ar eu colled o 拢67 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Dywed Llywodraeth Cymru nad yw 70% ohonyn nhw wedi talu treth gyngor o'r blaen.

Atal ymdrech

Bydd Aelodau Cynulliad yn cael eu galw yn 么l o'u gwyliau Nadolig ar Ragfyr 19 i bleidleisio ar y rheoliadau am yr eildro.

Cafodd ymdrech i gymeradwyo'r rheoliadau yn y Senedd cyn y Nadolig ei atal gan rai o ACau'r gwrthbleidiau.

Mae angen i'r rheoliadau gael eu cymeradwyo er mwyn galluogi cynghorau i barhau i gynnig y budd-dal (sy'n ddibynnol ar incwm) yn y flwyddyn ariannol nesaf sy'n dechrau yn Ebrill 2013.

Os na fydd y rheoliadau'n cael eu cymeradwyo, yna ni fydd y budd-dal yn cael ei dalu, ac fe fydd yn rhaid i bawb dalu eu biliau yn llawn.

Ond hyn yn oed os yw'r rheoliadau yn cael eu cymeradwyo, mae'r rhai sy'n derbyn y budd-dal yn debyg o fod ar eu colled oherwydd bod y gyllideb wedi ei chwtogi.

Mae angen rheoliadau newydd gan fod llywodraeth y DU wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y budd-dal i awdurdodau lleol, a hefyd wedi cwtogi'r cyllid sydd ar gael o tua 10%.

Dywed Llywodraeth Cymru nad yw'n medru fforddio gwneud yn iawn am y diffyg o 拢22 miliwn.

Roedd gweinidogion wedi gobeithio y byddai'r rheoliadau yn cael eu cymeradwyo ddydd Mercher yn ystod cyfarfod olaf y tymor.

Ond cwynodd ACau fod cannoedd o dudalennau o ddogfennau technegol wedi eu cyflwyno rhyw hanner awr cyn i'r bleidlais gael ei chynnal.

Penderfynodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, alw aelodau yn 么l i bleidleisio ar y mater yn ystod eu gwyliau yn dilyn trafodaethau gyda'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac Aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau.