'Gorddibyniaeth ar ofal preswyl'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae tua 23,000 o bobl h欧n yn aros mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Mae angen i Gymru ailystyried y ffordd y mae'n gofalu am bobl h欧n, yn 么l un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn galw am leihau dibyniaeth pobl h欧n ar ofal preswyl drwy ddatblygu'r gwaith a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru i symud at roi rhagor o bwyslais ar ddewisiadau sy'n cadw pobl yn eu cymunedau.

Daeth y Pwyllgor hefyd i'r casgliad bod yn rhaid gwneud popeth posibl i leihau'r straen ar bobl sy'n wynebu gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch eu gofal eu hunain neu ofal eu hanwyliaid.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried yr adroddiad ac yn ymateb maes o law, ond bod Cymru yn "wlad flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu polisi heneiddio".

Mae'r mesurau y gellid eu cymryd, medd y pwyllgor, yn cynnwys rhoi gwybodaeth llawer cliriach am ddewisiadau gofal ynghyd 芒 sicrhau bod adroddiadau archwilio o gartrefi gofal ar gael yn fwy ehangach ac yn hawdd i'w deall.

'Sensitifrwydd ac eglurder'

Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Gall y broses o ystyried dewisiadau gofal wrth inni heneiddio fod yn broses anodd iawn, gan ein bod yn gorfod cydnabod bod ein hannibyniaeth ni neu annibyniaeth ein hanwyliaid yn dirywio.

"Mae sensitifrwydd ac eglurder yn hanfodol bwysig yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r Pwyllgor o'r farn bod yn rhaid gwneud mwy i leihau'r pwysau sy'n gysylltiedig 芒 gwneud y penderfyniadau anodd hyn.

"Rhan o'r broses hon yw sicrhau bod gwybodaeth am yr holl ddewisiadau posibl mor glir a syml 芒 phosibl fel y gall pawb sy'n rhan o'r broses, gan gynnwys pobl h欧n a'u teuluoedd, wneud dewisiadau doeth.

"Rydym hefyd o'r farn y gellid ac y dylid gwneud mwy i leihau ein dibyniaeth ar ofal preswyl. Mae'r Pwyllgor wedi gweld llawer o ffyrdd creadigol a llawer o wasanaethau o safon uchel sydd wedi caniat谩u pobl h欧n i gadw eu hannibyniaeth. Mae effeithiau cadarnhaol dull o'r fath yn amlwg."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Ni ddylid gweld gofal preswyl yn opsiwn sy'n cynnig un canlyniad yn unig, sef dirywiad nad oes modd ei ddad-wneud.
  • Dylid gwneud rhagor i ddarparu cyngor a gwybodaeth i helpu pobl h欧n, eu teuluoedd a'u gofalwyr wrth iddynt benderfynu ynghylch eu gofal tymor hir.
  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'i phartneriaid i ddatblygu cynlluniau newydd sy'n rhoi mwy o lais a rheolaeth i breswylwyr, i'w teuluoedd ac i'w gofalwyr.
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pobl h欧n bob tro'n cael cynnig cyfnod o ailalluogi neu ofal canolraddol ar 么l cyfnod o salwch, yn enwedig pan fyddant wedi cael triniaeth mewn ysbyty. Ni ddylai neb fynd yn syth i ofal preswyl parhaol o'r ysbyty.
  • Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau bod trefniadau ar gyfer craffu ariannol ar ddarparwyr annibynnol yn cael eu cryfhau.

'Cymdeithas sy'n heneiddio'

Yn 么l Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, ddydd Mercher: "Rydym wedi cyflawni llawer yng Nghymru, ond ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau; rydym yn gwybod bod llawer i'w wneud o hyd i fynd i'r afael yn llawn 芒 goblygiadau cymdeithas sy'n heneiddio.

"Dyna pam rydym wedi ymrwymo i drydydd cyfnod ein Strategaeth ar gyfer Pobl H欧n.

"Bwriad Llywodraeth Cymru yw ystyried a fyddai Datganiad o Hawliau Pobl H欧n yn ein helpu i amddiffyn a gwella hawliau pobl h欧n yng Nghymru, ac rwyf wedi gofyn i'm swyddogion gydweithio 芒'n partneriaid i ystyried sut i archwilio'r mater ymhellach".