S4C yn agor Canolfan Gyfryngau

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer o gwmn茂au eisoes wedi agor swyddfeydd yn y ganolfan newydd

Mae S4C yn agor ei Chanolfan Gyfryngau newydd ar ei safle ym Mharc T欧 Glas Caerdydd yn swyddogol ddydd Gwener.

Mae'r ganolfan yn lleoliad i gwmn茂au o'r diwydiannau creadigol i weithio gyda'i gilydd ar y safle.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones ei fod yn gobeithio y bydd y fenter yn dod 芒 manteision i S4C ac i'r sector creadigol yng Nghymru.

Y cwmn茂au a sefydliadau cyntaf i symud i'r ganolfan yw Cyfle, Asiantaeth ffilm Cymru, Gorilla, Mr Producer, Media 4 a Rights.TV

Mae swyddfeydd y cwmn茂au allanol Dolphin a Buffalo Sound Recorder eisoes wedi eu lleoli yno.

'Rhannu cryfderau'

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Mae gan S4C safle gwych yma yn Llanisien yn y brifddinas, ac mae agoriad y Ganolfan Gyfryngau newydd yma'n fodd o rannu cryfderau gyda chwmn茂au ar draws y diwydiannau creadigol.

Disgrifiad o'r sainStephen Hughes aeth i weld y ganolfan newydd yng nghwmni Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Phartneriaethau S4C.

"Dwi'n mawr obeithio y bydd y ganolfan yn nodweddiadol o'r bwrlwm creadigol sydd wastad yn bodoli o fewn y sector darlledu ac yn y cyfryngau yn gyffredinol.

"I S4C, mae gwneud yn fawr o'r adnoddau sydd gyda ni yn bwysig iawn ac wrth agor ein drysau a chroesawu cwmn茂au allanol, ry'n ni'n creu cyfle economaidd i hybu'n gwasanaethau yn y pen draw."

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg fis Awst y llynedd, dywedodd Mr Jones ei fod yn awyddus i ddatganoli rhannau o S4C, a hynny i dri safle - un o bosib yn y gorllewin neu'r canolbarth, yn ogystal ag un yn y de ac un yn y gogledd.

Ym mis Hydref, cyhoeddodd y sianel y byddan nhw'n cynnal astudiaeth i'r posibilrwydd hwn.

Dywedodd Mr Jones ei fod am sicrhau fod buddiannau economaidd gwaith S4C yn cael eu rhannu ar draws Cymru lle bo hynny'n bosib.