麻豆官网首页入口

Pwysau ar ysbytai: Canslo llawdriniaethau

  • Cyhoeddwyd
Llawdriniaeth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 'Y pwysau'n llawer uwch'

Mae llawdrinaethau nad ydyn nhw'n rhai brys wedi eu canslo yn y gogledd a'r de am fod clefydau'r gaeaf yn rhoi pwysau ychwanegol ar ysbytai.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod y "pwysau'n llawer uwch oherwydd y ffliw a chyflyrau anadlol.

"Mae clefion angen mwy o amser yn yr ysbyty ac mae hyn wedi arwain at oedi yn yr adran frys.

'Blaenoriaeth'

"Rhaid oedd gwneud penderfyniad ar sail blaenoriaeth glinigol a chanslo llawdriniaethau nad oedden nhw'n rhai brys."

Roedd y bwrdd iechyd, meddai, yn cydweithio 芒 Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, meddygon teulu, a gwasanaethau cymdeithasol wrth geisio lleihau oedi.

Mae swyddogion wedi dweud bod llawdriniaethau nad ydyn nhw'n rhai brys yn cael eu canslo yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd a Bronglais yn Aberystwyth.

Bob dydd maen nhw'n adolygu'r sefyllfa.

Dywedodd Bwrdd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fod unedau damweiniau yn Ysbyty Treforys ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont "yn brysur iawn" a nifer y cleifion hyd at 20% yn uwch.

'Oedi'

"Mae hyn yn arwain at oedi a chanslo llawdriniaethau oedd wedi eu trefnu," meddai llefarydd.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi gofyn i Fwrdd Prifysgol Caerdydd a'r Fro beth yw'r sefyllfa yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan fod llawdriniaethau wedi eu canslo yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ac Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.

Mae llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi dweud: "Dim ond oherwydd achos brys y dylai claf fynd i uned ddamweiniau."

Dywedodd Dr Paul Worthington, prif swyddog Cyngor Iechyd Cymunedol Cwm Taf, fod y lefel llenwi gwely mewn rhai ysbytai yn 90%.