Bwrdd Iechyd i benderfynu'n derfynol ar ad-drefnu

Disgrifiad o'r llun, Cynhaliwyd ymgynghoriad 12 wythnos ddiwedd y llynedd ar gynlluniau ad-drefnu Bwrdd Iechyd Hywel Dda
  • Awdur, Owain Clarke
  • Swydd, Gohebydd Iechyd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae yna newidiadau pellgyrhaeddol ar y gorwel i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, gyda phob un o'r byrddau iechyd wedi bod yn datblygu cynlluniau i ad-drefnu eu gwasanaethau.

Dydd Mawrth bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dod i benderfyniad terfynol yngl欧n 芒 sut maen nhw am ad-drefnu gwasanaethau yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Mae'n debygol y bydd rheolwyr yn penderfynu cau rhai ysbytai cymunedol a chanoli rhai gwasanaethau arbenigol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Mae'n dilyn ymgynghoriad 12 wythnos yn ystod mis Awst, Medi a Hydref y llynedd.

Y bwriad, yn 么l y bwrdd, yw darparu 80% o wasanaethau iechyd y rhanbarth yn agosach at gartrefi'r cleifion.

Disgrifiad o'r sainAled Scourfield fu'n casglu barn rhai o bobl Sir Benfro ac Sir Gaerfyrddin am y cynigion.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru ar ddeall ei bod hi'n debygol y bydd y bwrdd yn bwrw ymlaen 芒 nifer o'r cynlluniau a gafodd eu hargymell yn y ddogfen ymgynghori.

Cynlluniau

O dan y cynlluniau, byddai adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yn newid i ofal nyrsys. Ond byddai'r ysbyty yn gweld buddsoddiad newydd mewn gwasanaethau dementia ac orthopaedig.

Mae'n debygol y bydd uned newydd yn darparu gofal arbenigol (lefel 2) ar gyfer babanod gwael ac sydd wedi'u geni'n gynnar yn cael ei sefydlu yn Ysbyty Glangwili, ond mae 'na ofnau y byddai'n rhaid cau Uned Gofal Arbennig Babanod Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Byddai gwasanaethau m芒n anafiadau - sydd ar hyn o bryd yn cael eu darparu yn Ysbytai Dinbych-y-Pysgod a De Sir Penfro - yn cael eu symud i ofal meddygon teulu a staff fyddai'n cael eu hadleoli yn Ysbyty Llwynhelyg.

Byddai ysbytai cymunedol Y Tymbl, Tregaron ac Aberaeron yn cau.

Mae'r bwrdd wedi addo buddsoddi gwerth 拢40 miliwn i ddatblygu canolfannau iechyd cymunedol, all ddarparu nifer o wasanaethau gan gynnwys profion diagnostig, apwyntiadau allan a ffisiotherapi.

Bydd y rhain yn cael eu lleoli yn Aberaeron, Aberteifi, Caerfyrddin, Cross Hands, Crymych a Hendy-gwyn ar Daf.

Amcangyfrifir y bydd y newidiadau'n golygu gostyngiad o 20% yn nifer y gwelyau mewn ysbytai. Mae'r bwrdd yn mynnu na fydd unrhyw un o'r newidiadau sy'n cael eu hargymell yn digwydd hyd nes y bydd hi'n ddiogel ac yn briodol i wneud hynny.

Dywedodd Prif Weithredwr y bwrdd, Trevor Purt, fod y broses ymgynghori wedi bod yn un drwyadl ac "na fyddan nhw'n cyfaddawdu ar ofal cleifion".

"Rydym wedi bod yn ystyried y dystiolaeth a'r ymateb ers diwedd yr ymgynghoriad.

"Yn sgil y sialensiau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd mi fydd y bwrdd yn ystyried nifer o argymhellion yn ystod eu cyfarfod ddydd Mawrth, Ionawr 15."

Disgrifiad o'r sainAdroddiad Craig Duggan am y sefyllfa yng Ngheredigion

Pryderon

Ond mae yna wrthwynebiad i'r cynlluniau.

Cyflwynwyd deiseb gyda 14,000 o lofnodion - wedi'i threfnu gan D卯m Achub Ysbyty Llwynhelyg - yn gwrthwynebu'r syniad o ganoli gwasanaethau cleifion mewnol yng Nglangwili, a deiseb gyda 1,254 o enwau'n gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i gau'r uned gofal arbenigol ar gyfer babanod yn Ysbyty Llwynhelyg.

Yn Ninbych-y-Pysgod mae 'na 637 o bobl wedi llofnodi eu bod nhw'n gwrthwynebu cynlluniau i gau Uned Man Anafiadau'r dref.

Mae'r ymgyrch i achub gwasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip (SOSPPAN) yn dweud eu bod nhw wedi casglu dros 26,000 o enwau yn erbyn unrhyw fwriad i newid statws yr uned frys.

Mae gwaith dadansoddi gan Wasanaethau Ymchwil Opinion i ymatebion pobl i ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd yn dangos gwrthwynebiad mawr i gau ysbyty cymunedol Mynydd Mawr yn Y Tymbl.

Er gwaetha' hyn roedd 'na gefnogaeth gref i'r egwyddor cyffredinol o ddatblygu gofal yn y gymuned.

'Straen'

Mae'r Cyngor Iechyd Cymuned lleol (CIC) - sy'n rhoi sylw i lais y cleifion - hefyd wedi tynnu sylw at nifer o bryderon.

Wrth ymateb i'r ymgynghoriad, dywedodd CIC hefyd fod y cyhoedd yn amau'r bwrdd iechyd, a bod 'na amheuon dwfn yngl欧n 芒 pharodrwydd rheolwyr i ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad.

Mae'r gwyn honno'n un gyffredin, yn 么l Medi George, un o ohebwyr y Western Telegraph - papur lleol Sir Benfro.

"Mae wedi bod yn bwnc sy'n creu lot o straeon i'r papur," meddai.

"Mae lot o bobl wedi bod yn siarad ar y stryd ac mewn cyfarfodydd, mae'n bwnc pwysig iawn iawn i lot o bobl.

"Mae pobl yn teimlo fod y penderfyniadau wedi eu gwneud amser maith yn 么l ....ac nad ydi'r bwrdd yn gwrando."

Fe allai CIC benderfynu cyfeirio'r cynlluniau at y Gweinidog Iechyd os nad ydyn nhw'n credu fod y cynlluniau yn cwrdd 芒 gofynion y boblogaeth.

'Dim opsiwn arall'

Ond mae eraill yn pryderu nad yw'r cynlluniau yn mynd yn ddigon pell, ac yn mynd i'r afael 芒'r pwysau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd.

Wrth ymateb i'r ymgynghoriad, dywedodd y Fforwm Clinigol Cenedlaethol - panel o ddoctoriaid blaenllaw sydd wedi'i sefydlu er mwyn rhoi cyngor arbenigol i fyrddau iechyd - fod cynlluniau i barhau 芒 gofal eilradd ar safleoedd pedwar ysbyty yn "anghynaladwy" ac mai cynllun dwy ganolfan oedd "yr unig opsiwn cynaliadwy yn yr hirdymor".

Mae cyrff proffesiynol eraill hefyd yn mynnu nad oes gan fyrddau iechyd Cymru unrhyw opsiwn ond bwrw ymlaen 芒 newidiadau.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda - yn union fel y byrddau iechyd eraill ar draws Cymru - yn wynebu sialensiau ariannol sylweddol.

Fis Tachwedd mi wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru amcangyfrif y gallai'r bwrdd, ar ei waethaf, wynebu diffyg ariannol o 拢13.1 miliwn erbyn diwedd mis Mawrth.

Yn ddiweddarach cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, y byddai'r bwrdd iechyd yn derbyn 拢8 miliwn yn rhagor gan Lywodraeth Cymru fel rhan o becyn ariannol gwerth 拢82 miliwn er mwyn lleihau'r pwysau ariannol sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd ar draws Cymru.

Yn 么l y bwrdd, byddai'r newidiadau i'r ddarpariaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru yn arwain at ostyngiad o 拢14.8 miliwn yn eu costau erbyn 2015/16.

Y bwrdd yw'r cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi eu cynlluniau terfynol i ad-drefnu gwasanaethau iechyd.

Dydd Gwener bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cwrdd i benderfynu sut maen nhw'n bwriadu ailstrwythuro gwasanaethau iechyd yn y gogledd.