麻豆官网首页入口

S4C: Newidiadau i'w hamserlen

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys S4C yn LlanishenFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o gwmn茂au eisoes wedi agor swyddfeydd yn y ganolfan newydd

Mae S4C wedi cyhoeddi newidiadau i'w hamserlen gyda sawl rhaglen yn symud i amseroedd newydd o fis Ebrill ymlaen.

O fis Ebrill ymlaen, fe fydd prif raglen Newyddion sy'n cael ei chynhyrchu gan 麻豆官网首页入口 Cymru yn cael ei darlledu am 9pm.

Y gyfres ddrama Rownd a Rownd fydd ar y sgrin am 7.30pm bob nos Fawrth a nos Iau.

Bydd y rhaglen gylchgrawn Heno yn parhau am 7pm bob nos Lun i nos Wener, ond bydd rhaglen estynedig awr o hyd bob nos Lun a nos Wener.

Yn 么l Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, mae'r sianel yn ymateb i ofynion gwylwyr.

Dywedodd Golygydd dros dro Newyddion 麻豆官网首页入口 Cymru, Sharen Griffith: "Mae Newyddion yn dod 芒'r wybodaeth ddiweddaraf i wylwyr S4C, gyda'r rhagoriaeth newyddiadurol y mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl gan y 麻豆官网首页入口.

"Rydym yn edrych ymlaen at ail-lansio'r rhaglen ar yr amser cyffrous newydd yma am 9pm."

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4: "Mae'n gyfle i ail leoli'r newyddion a chreu gwasanaeth cynhwysfawr, amserol fydd yn berthnasol i'r adeg honno o'r nos ac i gynulleidfa S4C fydd yn cynnwys newyddion Cymru a'r byd.

"Mae hefyd yn rhoi hyblygrwydd i ni wrth drefnu amserlen y noson."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol