'Gobaith' am ddyfodol lladd-dy

Disgrifiad o'r llun, Roedd Undeb Amaethwyr Cymru, Gyrfa Cymru, undeb Unite a Choleg Menai hefyd yn y cyfarfod

Mae arweinydd cyngor yn dweud ei fod yn "ffyddiog" fod modd achub swyddi mewn lladd-dy yn Y Gaerwen ar Ynys M么n wedi i gwmni golli eu prif gwsmeriaid.

Roedd cyfarfod arbennig yn trafod dyfodol ffatri Welsh Country Foods.

Mae hyd at 350 o swyddi dan fygythiad wedi i'r perchnogion, cwmni Vion o'r Iseldiroedd, gyhoeddi yn gynharach yn y mis eu bod wedi colli cytundeb cwsmer allweddol, archfarchnad Asda.

Cafodd gweithgor arbennig ei sefydlu yn cynnwys cynrychiolwyr y cyngor, Welsh Country Foods, undebau, Gyrfa Cymru a Choleg Menai.

Wedi'r cyfarfod yn Llangefni dywedodd y cyngor fod nifer o bartneriaid wedi addo cydweithio i geisio sicrhau dyfodol y safle.

'Adeiladol'

Dywedodd Cynghorydd Bryan Owen: "Roedd yn gyfarfod adeiladol dros ben, drwy roi gwell syniad i bartneriaid o'r sefyllfa sydd yn wybebu Welsh Country Foods a chyfle i fynegi barn a thrafod y gwahanol ffyrdd y gellir cefnogi'r gwaith a'i staff.

"Gydag Asda ar hyn o bryd yn adolygu ei benderfyniad, a Llywodraeth Cymru yn cefnogi, rydym yn obeithiol y gellir dod o hyd i ffordd o arbed Welsh Country Foods.

"Y gobaith ydy y byddan ni'n medru mynd yn 么l at Asda ac y byddan ni'n medru eu cael nhw i newid eu meddyliau ac ella bydd y cwmni'n cael aildendro am y cytundeb.

Disgrifiad o'r fideo, Adroddiad Llyr Edwards

Ychwanegodd: "Y ddealltwriaeth ydy bod 'na rhywun 芒 diddordeb mewn prynu'r lle ond mae hynny'n cymryd amser.

"Wrth gwrs, am fod Asda wedi gwneud y penderfyniad yma rwan, faint o ergyd ydy hynny i bobl sydd eisiau prynu'r cwmni?

"Mae'r cynnyrch yn y Gaerwen gystal ag unrhyw gig gewch chi rywle yn y byd a dyna sy'n mynd i achub y lladd-dy yn y diwedd yn ogystal 芒'r gweithwyr sy'n gweithio yno."

Proses ymgynghori

Dros y dyddiau nesaf, bydd gwahanol gyrff yn yn codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd am effeithiau'r penderfyniad.

Welsh Country Foods yw'r cyfleuster prosesu mwyaf yng ngogledd Cymru ar gyfer cig oen o Gymru, gan ddelio gyda 640,000 o 诺yn bob blwyddyn.

Yn eu cyhoeddiad ar Ionawr 11, dywedodd Vion fod cyflenwi Asda yn werth tua 50% o'r busnes yn ffatri'r Gaerwen.

Cyhoeddodd y cwmni ddechrau proses ymgynghori 90 diwrnod gydag undebau a gweithwyr yn y ffatri.

Ers hynny mae Vion ac Asda wedi bod yn cyfarfod i drafod dyfodol y ffatri.

Dywedodd Asda mai nad ar chwarae bach y gwnaethon nhw'n penderfyniad i ddirwyn eu cytundeb i ben, ond eu bod yn ymateb i anghenion y farchnad.