Carwyn Jones: 'Rhaid i'r Gwasanaeth Iechyd newid'

Disgrifiad o'r llun, Mae protestwyr wedi ymgyrchu yn erbyn newidiadau i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru

Bydd bywydau pobl mewn perygl os na fydd y Gwasanaeth Iechyd yn newid, yn 么l Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Dywedodd wrth Aelodau'r Cynulliad fod angen rhoi triniaeth i rai anhwylderau mewn canolfannau rhagoriaeth.

Ychwanegodd na allai Llywodraeth Cymru roi barn am gynigion penodol oherwydd y gallai penderfyniadau dadleuol gael eu cyfeirio at weinidogion.

Daw sylwadau Mr Jones wrth i fyrddau iechyd lleol Cymru gyhoeddi cynlluniau am sut y byddan nhw'n darparu gwasanaethau.

'Atebion gwyliadwrus"

Gallai cynigion gael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru os bydd cynghorau iechyd cymunedol yn eu gwrthwynebu.

Mae Byrddau Iechyd Hywel Dda a Betsi Cadwaladr eisoes wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer Gogledd Cymru, y Canolbarth a De Orllewin Cymru.

Y disgwyl yw i weddill byrddau iechyd Cymru gyhoeddi eu cynlluniau maes o law.

Yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Senedd honnodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod y Prif Weinidog yn rhoi atebion "gwyliadwrus" ynghylch ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd.

Gofynnodd Ms Wood a oedd Mr Jones yn cytuno 芒 chynnig i symud gofal dwys arbenigol ar gyfer babanod o Ogledd Cymru i Loegr.

Galwodd hi ar y Prif Weinidog i "wrthwynebu canoli gwasanaethau sy'n peryglu bywydau, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd gwael".

'Lleisio barn'

Dywedodd Mr Jones ei fod am weld "gwasanaethau diogel a chynaliadwy," gan ychwanegu: "Fyddai'r un llywodraeth yn cefnogi unrhyw gynllun fyddai'n peryglu bywydau".

Roedd yn amhosib, meddai, i weinidogion leisio barn ynghylch cynigion unigol oherwydd "does dim dwywaith y byddai'n cael ei defnyddio mewn unrhyw adolygiad barnwrol".

"Fe fyddwn ni fel llywodraeth yn lleisio barn maes o law," meddai.

Gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew R T Davies, i Lywodraeth Cymru ystyried cynigion y Ceidwadwyr i helpu busnesau bychain i fenthyca arian cyhoeddus drwy fanciau'r stryd fawr.

Dywedodd Mr Jones fod gan y llywodraeth ystod o gynlluniau i helpu busnesau a'u bod wedi comisiynu adolygiad ynghylch credyd i fusnesau.

Yr arbenigwr economaidd Ceidwadol Dylan Jones-Evans fydd yn arwain yr adolygiad.

Gofynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, a fyddai modd trosglwyddo arian oedd heb ei wario gan y cynllun cymhorthdal ffermio, Glastir i ffermydd yn yr ardaloedd mwyaf heriol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Dywedodd Mr Jones fod Llywodraeth Cymru yn darparu'r "lefel briodol o gymorth" i ffermwyr.