Gweithwyr lladd-dy yn galw am foicotio archfarchnadoedd Asda

Disgrifiad o'r fideo, Adroddiad Elin Gwilym

Mae rhai o weithwyr lladd-dy ar Ynys M么n yn gofyn i gwsmeriaid Asda i foicotio'r archfarchnad ddydd Sadwrn.

Mae dyfodol Welsh Country Foods yng Ngaerwen, a swyddi 350 o weithwyr, yn y fantol ar 么l i'r lladd-dy golli archeb enfawr gan yr archfarchnad.

Roedd 'na brotestiadau'r tu allan i ganghennau'r archfarchnad ym Mangor, Llangefni a Chaergybi.

Roedd tua 30 o aelodau undeb Unite tu allan i'r siop yn Llangefni tra bod gweithwyr yn rhannu taflenni y tu allan i'w ddwy siop arall.

Dywedodd Asda eu bod wedi cyfarfod gyda Welsh Country Foods.

Dywedodd Jamie Pritchard, swyddog undeb Unite yn Welsh Country Foods, eu bod eisiau dangos i Asda nad ydyn nhw'n barod i dderbyn y penderfyniad.

"Mae 'na gais cynllunio i godi archfarchnadoedd ac maen nhw'n penderfynu dirwyn y cytundeb am gyflenwyr lleol o wyn i ben.

"Rydym yn gofyn i'r cyhoedd beidio siopa yn Asda tan y bydd 'na newid meddwl."

Cefngoaeth

Dywedodd bod yr archfarchnad wedi "ymddwyn yn anghyfrifol yn fy marn i ac yn rhoi elw o flaen egwyddorion".

Ychwanegodd bod disgwyl cryn gefnogaeth gan fod y cyhoedd eisoes wedi anfon neges o gefnogaeth i'r gweithwyr.

"Rydym wedi cael cyfarfod adeiladol gyda Welsh Country Foods," meddai llefarydd ar ran archfarchnad Asda.

"Rydym wedi gwrando ar eu sylwadau ac wedi rhoi ystyriaeth lawn a byddwn yn ymateb maes o law."