麻豆官网首页入口

'Angen gwella addysg,' medd Estyn

  • Cyhoeddwyd
Arholiadau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O'r ysgolion gafodd arolwg y llynedd, roedd un o bob saith yn 'wych' ond un o bob saith yn 'annerbyniol'

Mae'r corff sy'n arolygu ysgolion Cymru yn dweud ei fod yn bryderus nad oes digon yn cael ei wneud i gael y gorau allan o'r disgyblion gorau.

Yn ei adroddiad blynyddol, dywed Estyn hefyd bod llai o ysgolion wedi derbyn arolygon 'da' neu 'wych' o'i gymharu 芒'r llynedd.

Dywedodd Estyn bod nifer o gryfderau sy'n gyffredin i'n hysgolion, ond bod hefyd anghysonderau.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, maent yn gweithio'n galed i wella'r meysydd sydd angen sylw.

Ond dywedodd y gwrthbleidiau bod yr adroddiad yn ddarllen trist am gyflwr addysg yng Nghymru.

Disgwyliadau isel

Dywed yr adroddiad bod un o bob saith ysgol uwchradd a gafodd arolwg wedi cael yr asesiad 'gwych', ond ar y llaw arall bod un o bob saith yn 'annerbyniol'.

Wrth drafod y disgyblion mwyaf disglair, dywedodd y prif arolygydd Ann Keane ei bod yn credu fod athrawon mewn rhai ysgolion yn rhoi mwy o sylw a chefnogaeth i'r rhai sydd 芒 chyrhaeddiad is, a bod hynny'n rhannol gyfrifol bod llai o ddisgyblion wedi derbyn graddau A ac A* mewn arholiadau TGAU.

Cyfeiriodd adroddiad blynyddol Estyn at ysgolion cynradd trwy ddweud:

"Mewn lleiafrif sylweddol o ysgolion cynradd, nid yw disgyblion disglair yn gwneud digon o welliant.

"Er bod y mwyafrif yn cyrraedd y safonau disgwyliedig am eu blwyddyn ysgol, mae rhy ychydig yn cyrraedd y safonau uchaf.

"Mewn dros chwarter yr ysgolion, nid oes gan y staff ddisgwyliadau digon uchel o'r hyn y gall y disgyblion gyflawni, ac o ganlyniad nid yw'r disgyblion yn cyflawni cymaint ag y gallan nhw."

'Perfformiad tila'

O'r 35 o ysgolion uwchradd a gafodd arolwg y llynedd, roedd 46% naill ai'n dda neu'n wych.

Dywed yr adroddiad: "Mae perfformiad yn dda neu'n well mewn 46% o'r ysgolion gan gynnwys perfformiad 'gwych' mewn 14%.

"Mae'r gyfran o ysgolion gafodd berfformiad gwych yn debyg iawn i'r hyn oedd y flwyddyn cynt, ond mae'r gyfran sydd 芒 pherfformiad 'da' yn is o lawer."

Roedd yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at bryder am lefel sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifedd ar draws holl sectorau addysgol Cymru, ac roedd yr adroddiad hefyd yn pwysleisio'r angen i arweinwyr ysgolion gael mwy gan athrawon.

"Yn benodol, mewn ysgolion, mae angen i fwy o benaethiaid fynd i'r afael 芒 pherfformiad addysgu tila mewn dull mwy cadarn.

"Mae angen i brifathrawon fynd i'r afael 芒 ffaeleddau mewn perfformiad uwch arweinwyr ac arweinwyr canolig."

Ystyried

Roedd Llywodraeth Cymru yn pwysleisio agweddau positif yr adroddiad, a dywedodd llefarydd ar eu rhan:

"Mae'r agweddu positif i'w croesawu ac yn galonogol. Mae'r pethau oedd angen sylw - llythrennedd, rhifedd a chryfhau arweiniad - yn adlewyrchu ein polis茂au ac yn flaenoriaeth o ran yr hyn yr ydym yn gweithio'n galed i gyflawni.

"Rydym yn rhannu pryderon Estyn am y nifer o awdurdodau lleol sydd ddim yn perfformio cystal ag y dylen nhw - mae'n un o'r rhesymau pam bod y Gweinidog wedi cyflwyno adolygiad trylwyr o effeithiolrwydd y system ddarparu addysg yng Nghymru.

"Rydym yn diolch i Estyn am eu hadroddiad manwl. Byddwn nawr yn cymryd amser i ystyried ei ganlyniadau cyn ymateb yn ffurfiol."

'Tanberfformio'

Doedd y gwrthbleidiau ddim mor bositif.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg, Angela Burns AC: "Mae'r adroddiad yn ddarllen pryderus, ond nid yn annisgwyl yn anffodus.

"Mae'r adroddiad yn cadarnhau pryderon pwysig am safonau llythrennedd a rhifedd yn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru.

"Mae'n bryderus bod nifer yr ysgolion gafodd arolwg 'da' neu 'wych' y llynedd wedi gostwng, a bod tua 50% o ysgolion wedi tanberfformio i'r fath raddau fel bod angen arolwg arall.

"Dylai ein hathrawon gorau gael eu hannog i rannu arfer da, ac mae angen i'r Gweinidog Addysg ariannu ei ddiwygiadau yn iawn a gweithio'n adeiladol gydag athrawon er mwyn codi safonau."

Gwaeth nid gwell

Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar Addysg yw Aled Roberts AC, a dywedodd:

"Yn dilyn cyfres o gynlluniau sydd, yn hytrach na gwella pethau, wedi eu gwneud yn waeth, rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru ddechrau mynd i'r afael 芒'r gwendidau sylfaenol yn ein sustem addysg.

"Roedd Llywodraeth Cymru yn credu yn y dechrau mai diddymu arholiadau blynyddol oedd yr ateb i wella llythrennedd a rhifedd.

"Nawr wedi blynyddoedd o ddirywio safonau ysgolion mae'r Gweinidog Addysg yn gwyrdroi'r penderfyniad yna.

"A oes rhyfedd bod economi Cymru yn llusgo'i thraed y tu 么l i weddill y DU pan nad ydym yn rhoi sgiliau sylfaenol i'n plant cyn iddyn nhw adael yr ysgol?

"Rydym yn croesawu bod y Gweinidog yn y gorffennol wedi cydnabod ffaeleddau record ei blaid mewn llywodraeth, ond mae'n bryd iddo nawr gymryd cyfrifoldeb am ei adran, oherwydd fedrwn ni ddim caniat谩u i genhedlaeth arall o bobl ifanc Cymru gael eu gadael ar 么l."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol