'Ergyd drom' i ddyfodol lladd-dy

Disgrifiad o'r llun, Roedd perchnogion y lladd-dy a'r cyngor wedi gobeithio newid meddwl Asda yngl欧n 芒 dod 芒'r cytundeb cyflenwi i ben

Roedd 'na ergyd i'r gobeithion o sicrhau dyfodol lladd-dy yn Sir F么n ddydd Mercher, wrth i gwsmeriaid mwyaf y safle gyhoeddi na fyddan nhw'n newid eu meddwl am symud at gyflenwyr eraill.

Yn gynharach ym mis Ionawr, cyhoeddodd perchnogion Welsh Country Foods yn Y Gaerwen eu bod wedi colli cytundeb cwsmer allweddol, archfarchnad Asda.

Mae'n golygu fod hyd at 350 o swyddi dan fygythiad ar y safle.

Ddydd Mercher, cadarnhaodd Asda eu bod yn dod 芒'u cytundeb cyflenwi gyda Welsh Country Foods i ben a'u bod yn symud at gyflenwyr eraill yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin.

Roedd perchnogion y safle, cwmni Vion o'r Iseldiroedd, a Chyngor Sir Ynys M么n wedi gobeithio perswadio Asda i newid eu meddwl.

Siom

Dywedodd yr Aelod Seneddol dros yr ynys, Albert Owen, ei fod yn "hynod siomedig" 芒'r penderfyni

"Mae penderfyniad Asda yn ergyd drom i Welsh Country Foods a'r gweithlu," meddai.

"Rwy'n credu fod gan Vion ac Asda ymrwymiad i Welsh Country Foods, sy'n cynhyrchu cynnyrch o ansawdd.

"Mae Asda yn agor siopau yn yr ardal ac maent eisiau ymrwymiad gan y gymuned leol, ac yn gyfnewid am hynny fe ddylai'r gymuned gael ymrwymiad ganddyn nhw fel corfforaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Asda:

"Rydym yn gwerthfawrogi pa mor siomedig fydd hyn i Welsh Country Foods ond rydym eisiau sicrhau pobl nad oedd hwn yn benderfyniad hawdd.

"Bydd ein cwsmeriaid yn dal i allu prynu cig oen Cymreig, sy'n cael ei fagu ar ffermydd Cymru a'i brosesu yng Nghymru, gan ein bod yn symud ein busnes i Dunbia, sydd 芒 safle yn Llanybydder."

Ymrwymiad

Wrth ymateb i benderfyniad Asda, dywedodd Jim Dobson, Rheolwr Gyfarwyddwr Dunbia, fod y cwmni wedi buddsoddi'n helaeth yn y diwydiant prosesu cig oen a'u bod yn falch bod Asda yn cydnabod hynny.

"Rydym nawr yn ceisio cael wyn gan bob un o gynhyrchwyr presennol Asda ac rydym yn awyddus i adeiladu ar ein rhestr o gyflenwyr yng Nghymru...Mae Dunbia wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr ac economi Cymru."

Yn y cyfamser, cyhoeddodd undeb ffermwyr NFU Cymru y byddan nhw'n cwrdd 芒'r Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies, a'r Aelod Cynulliad dros Ynys M么n, Ieuan Wyn Jones, yn ddiweddarach yn yr wythnos i drafod opsiynau i sicrhau dyfodol y safle yn Y Gaerwen.

Dywedodd llywydd yr undeb, Ed Bailey: "Rydym yn parhau i bwyso ar Vion yngl欧n 芒 phwysigrwydd cynnal Welsh Country Foods nes bod perchennog newydd yn dod i'r fei. Rydym yn gobeithio y bydd y cwmni'n llwyddo i ddenu prif gwsmer arall ac y byddan nhw'n gallu parhau i ddatblygu cytundebau cartre' a thramor gyda chwmn茂au eraill.

"Rydym yn cydnabod cefnogaeth Cyngor M么n a Llywodraeth Cymru wrth geisio sicrhau dyfodol y safle ac rydym yn gobeithio y byddan nhw'n parhau i roi cefnogaeth lawn i geisio sicrhau fod y safle'n ddeniadol i unrhyw brynwr posib."ad.