麻豆官网首页入口

TGAU i barhau yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
ArholiadauFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd bwriad i roi'r gorau i arholiadau TGAU yn Lloegr

Mae Ysgrifennydd Addysg Lloegr Michael Gove am roi'r gorau i'w gynlluniau i gael gwared ar arholiadau TGAU a chyflwyno cymwysterau anoddach o 2015 ymlaen.

Cafodd y newyddion ei groesawu gan Weinidog Addysg Cymru Leighton Andrews ddydd Iau.

Roedd Mr Gove wedi wynebu beirniadaeth lem athrawon, gwleidyddion a byrddau arholi ers iddo gyhoeddi bum mis yn 么l ei fod am gyflwyno tystysgrif bagloriaeth i Loegr.

Ar Radio Five Live dywedodd Mr Andrews fod penderfyniad gwreiddiol Mr Gove yn debygol o danseilio ffydd pobl yn arholiadau TGAU.

Yng Nghymru roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y byddai disgyblion yn parhau i sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch.

'Edifarhau'

"Rwy'n falch fod Lloegr fel Cymru a Gogledd Iwerddon yn mynd i gadw TGAU," meddai.

Dywedodd fod Mr Gove fel "pechadur oedd wedi edifarhau."

Yn wreiddiol, bwriad Mr Gove oedd cael gwared ar TGAU ar gyfer y prif bynciau craidd, Saesneg, Mathemateg a gwyddoniaeth, ac yna ymestyn hynny i bynciau eraill.

Mae'n debyg y bydd Mr Gove hefyd yn rhoi'r gorau i gynllun arall yn y maes addysg.

Does yna ddim bwriad bellach i gael un bwrdd arholi ar gyfer un pwnc penodol yn Lloegr.

Yr wythnos diwethaf rhybuddiodd Pwyllgor Dethol ar Addysg yn Nh欧'r Cyffredin y llywodraeth am y newidiadau ym myd addysg.

Roedden nhw am i'r llywodraeth arafu'r broses ac ailfeddwl newid y system arholiadau.

Dywedodd adroddiad amlbleidiol fod y newidiadau yn cael eu gwneud ar frys ac mewn peryg o niweidio'r system arholiadau.