麻豆官网首页入口

Dau gyngor: 'Angen gwella addysg'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Arwyn Jones

Dylai gwasanaethau addysg dau awdurdod lleol fod mewn mesurau arbennig, yn 么l y corff sy'n arolygu addysg yng Nghymru.

Yn 么l Estyn, mae'r ddarpariaeth yng nghynghorau Sir Fynwy a Merthyr yn annerbyniol ar 么l archwiliadau'r llynedd.

Er bod ysgolion cyngor sir Fynwy yn rhai da - yn well na'r rhan fwyaf - fe ddylai nhw fod yn llawer gwell o ystyried mor gyfoethog ydy'r rhan fwyaf o rieni, meddai Estyn.

Ym Merthyr, mae llawer mwy o dlodi. Ond hyd yn oed o ystyried hynny, mi ddylai'r safonau fod yn uwch, yn 么l yr arolygwyr.

Mae'r ddau gyngor yn derbyn bod digon o le i wella.

'Methu'

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn danbaid, gan fynnu bod gormod o gynghorau llai Cymru yn methu yn eu dyletswyddau i bobl ifanc.

Wrth siarad ar wasanaeth Radio Wales fore Mercher, dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews:

"Mae'r canlyniadau yma'n siomedig iawn. Mae adroddiad Merthyr yn un o'r rhai gwaethaf i mi eu darllen, ac mae elfen o hunanfodlonrwydd yn Sir Fynwy.

"Rydym yn medi'r hyn gafodd ei hau yn y 1990 wrth newid o wyth awdurdod lleol i 22. Arweiniodd hynny at wasgaru adnoddau, diffyg arbenigedd a phenderfyniadau gwael eraill.

"Rwy'n disgwyl am ganlyniad fy arolwg i addysg, ond mae'r model consortia yn un dewis. Fedrwn ni ddim parhau fel hyn.

"Mae safonau yn gwella ar y cyfan.

"Mae'r cyfrifoldeb am wasanaethau yn yr awdurdodau sy'n methu ar ysgwyddau'r rhai sy'n rheoli yno, ond fe fyddaf yn gweithredu pan mae cynghorau yn methu ac fe fydd gen i fwy i ddweud am Sir Fynwy a Merthyr Tudful dros yr wythnos i ddod."

'Sioc'

Dywedodd Aelod Cynulliad Merthyr, Huw Lewis: "Mae adroddiad Estyn yn tanlinellu sefyllfa bryderus addysg ym Merthyr Tudful dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae addysg yn allweddol i daclo tlodi ac afiechyd ac i wella ansawdd bywyd. Mae'n sioc wirioneddol bod y system addysg wedi methu ein plant yn y fath fodd".

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: "Mae'r adroddiad yn llesol ac yn dangos bod angen i ni wella addysg plant a phobol ifanc y sir.

"Tra bod ein hysgolion yn ymddangos yn gwneud yn dda mewn tablau cenedlaethol, mae'n amlwg y gallem gyflawni mwy, ac fe ddylai safonau fod yn uwch.

"Rydym eisoes wedi dechrau mynd i'r afael 芒 nifer o'r materion a godwyd yn yr arolygiad".

Bellach mae pump o adrannau addysg cynghorau Cymru wedi eu gosod mewn mesurau arbennig, ar 么l i arolygon ganfod bod safonau yn annerbyniol, sef Blaenau Gwent, Sir Benfro, Ynys M么n, Merthyr a Sir Fynwy.

Ymateb pellach

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas AC:

"Mae'r adroddiadau hyn yn cadarnhau'r darlun sy'n ymddangos o system addysg anghyfartal nad yw'n gweithio yng Nghymru.

"Hyd yma, does yr un awdurdod addysg lleol wedi'i farnu yn 'rhagorol' ac y mae tri mewn mesurau arbennig eisoes. Nawr mae Sir Fynwy a Merthyr wedi'u pwyso yn y glorian a'u cael yn brin.

"Yn achos Merthyr, bu'r ysgrifen ar y mur ers peth amser, ac y mae'n siomedig nad yw'r awdurdod wedi gwella. Dylai'r Gweinidog ystyried ymyrryd yma.

"Mae'r holl hanes yn tanlinellu'r cyflwr truenus y gadawyd Cymru ynddi gan un gweinidog addysg Llafur ar 么l y llall ers 1997, ac mewn llawer achos, yr un fu methiannau awdurdodau addysg Llafur.

"Pan oedd Plaid Cymru mewn clymblaid gyda Llafur fe gefnogodd ac annog y rhaglen bresennol o welliannau ysgolion, ond mae'r adroddiad yn amlygu'r angen am weithredu mwy pendant fyth.

"Yn amlwg, mae angen adolygu dyfodol awdurdodau addysg lleol, ac mae angen rhyw fath o ailstrwythuro a newid canolbwynt.

"Yng ngoleuni'r cyswllt clir rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol, a'r lefelau uwch o amddifadedd yng Nghymru o gymharu 芒 gweddill y DG, mae peidio ag ymdrin 芒'r mater hwn yn dal ein heconomi'n 么l ac yn gwneud tro gwael 芒'n plant."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol