TGAU: Newid er mwyn osgoi trafferth

Disgrifiad o'r llun, Cafodd dros 2,000 o bapurau TGAU Saesneg eu hailraddio y llynedd yng Nghymru

Bydd Cymru'n gosod system raddio ei hun ar gyfer arholiadau TGAU Saesneg er mwyn ceisio osgoi ailadrodd trafferthion yr haf diwethaf, medd y Gweinidog Addysg.

Cyhoeddodd Leighton Andrews na fydd y ffiniau rhwng graddau yn y pwnc bellach yn cael eu cytuno gyda Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Roedd y tair gwlad yn flaenorol wedi rhannu'r un ffiniau rhwng y graddau yn y pwnc.

Y llynedd fe orchmynnodd Mr Andrews y dylid ailraddio dros 2,000 o bapurau TGAU Saesneg gan ddweud bod y modd y cafodd y ffiniau eu gosod yn annheg i fyfyrwyr o Gymru.

Mae Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) wedi dweud na fydden nhw wedi argymell y newid er mwyn gall cymharu canlyniadau.

'Cymhwyster allweddol'

O hyn ymlaen, mae Mr Andrews am i fyrddau arholi ddefnyddio system o roi graddau ar gyfer Cymru yn unig.

"Bydd yr amodau newydd yn sicrhau y bydd rhoi graddau TGAU Saesneg yng Nghymru yn cael ei wahanu o'r trefniadau ar gyfer y pwnc Iaith Saesneg yn Lloegr," meddai.

Gallai'r newid olygu na fydd modd cymharu graddau disgyblion TGAU yng Nghymru gyda'r rhai yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae nifer o wahaniaethau wedi datblygu rhwng systemau arholiadau'r tair gwlad. Mae gan Yr Alban gymwysterau eu hunain.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw creu corff newydd i reoleiddio arholiadau a chymwysterau yng Nghymru.

"Mae TGAU Iaith Saesneg yn gymhwyster allweddol," ychwanegodd Mr Andrews.

"Rwy'n benderfynol y bydd gan ddisgyblion Cymru yr un hyder bod eu gwaith yn ennill y graddau y maen nhw'n eu haeddu."

'Pasport'

Mae CBAC wedi mynegi pryder am gyhoeddiad y Gweinidog.

Dywedodd y bwrdd y dylai cymwysterau disgyblion yng Nghymru fod yn gyfartal 芒 chymwysterau gweddill y DU.

Dywedodd llefarydd: "Yn benodol, mae cymwysterau TGAU mewn pynciau craidd fel Iaith Saesneg yn cael eu defnyddio naill ai fel pasport i fyd gwaith neu ar gyfer astudiaethau pellach.

"Mae'n hanfodol felly ein bod yn parhau gyda'n gwaith o weithio gyda'r rheoleiddwyr a chyrff eraill i sicrhau cydraddoldeb a chysondeb safonau o fewn y brand TGAU.

"Nid yw'r amod arbennig ynghylch papurau ar wah芒n i ymgeiswyr yng Nghymru yn rhywbeth y byddai CBAC wedi ei argymell, ond nawr mae angen ystyried goblygiadau hyn gyda Llywodraeth Cymru ac Ofqual ar y cyd er mwyn medru parhau i fedru rhoi sicrwydd am gymhared safonau."