麻豆官网首页入口

Gweinidog addysg 'yn amddiffyn r么l comisiynydd'

  • Cyhoeddwyd
Leighton Andrews
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gweinidog Addysg: 'Nifer o bryderon'

Mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi amddiffyn r么l ac annibyniaeth Comisiynydd y Gymraeg yn sgil ei benderfyniad i wrthod argymhellion safonau iaith yn Chwefror.

Esboniodd ei benderfyniad yn ystod dadl yn Siambr y Senedd ym Mae Caerdydd brynhawn Mawrth.

Dywedodd fod ganddo nifer o bryderon am y safonau gan fod ystyr rhai yn aneglur, yn mynd tu hwnt i gwmpas y mesur ac 芒'r potensial i gamarwain y cyhoedd.

Pwysleisiodd mai nid ar chwarae bach y gwnaeth y penderfyniad.

"Nid yw fy mhenderfyniad yn tanseilio r么l y comisiynydd," meddai. "Yn wir, mae'n cadarnhau annibyniaeth y comisiynydd ar y llywodraeth.

Amserlen

"Mae hi'n parhau yn bencampwraig dros yr iaith, yn annibynnol ar y llywodraeth, yn enwedig yn nhermau ei r么l reoleiddio."

Dywedodd y byddai'n cyhoeddi amserlen ar gyfer safonau iaith newydd gyda'r nod o gael y rhai cyntaf yn eu lle erbyn diwedd 2014.

Dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas AC ei bod yn amlwg bod cyfathrebu rhwng y llywodraeth a swyddfa'r comisiynydd wedi bod yn "wael" ac yn "wan".

"Nid oedd yn ddigon clir pwy oedd yn gwneud beth," meddai.

"Rwy'n derbyn bod y comisiynydd yn annibynnol a does dim rhaid i'r comisiynydd wrando ar y llywodraeth.

'Yn ddoeth'

"Ond ... os yw rhywun yn dweud wrthych chi fwy nag unwaith mai fel hyn y byddan nhw'n dymuno gweld rhywbeth yn cael ei wneud - er mwyn hwyluso'r broses ddeddfwriaeth sy'n dilyn - byddai'n ddoeth talu sylw i hynny."

Cwestiynodd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol pam bod y broses gyflwyno safonau yn cymeryd cymaint o amser.

Holodd Suzy Davies o'r Ceidwadwyr ba waith paratoi yr oedd y gweinidog a'i adran wedi ei wneud ers pasio'r Mesur Iaith yn 2011.

Pwysleisiodd y gweinidog wrth orffen ei fod yn disgwyl i'w swyddogion a swyddogion y comisiynydd gydweithio yn y dyfodol.