Ambiwlansys: Ymddiheuro am oedi y tu allan i ysbyty Bronglais

Disgrifiad o'r llun, Roedd pedwar ambiwlans yn aros y tu allan i Ysbyty Bronglais brynhawn dydd Mawrth.

Mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi ymddiheuro ar 么l i nifer o ambiwlansys orfod aros y tu allan i ysbyty ddydd Mawrth.

Bu'n rhaid i gleifion gael eu hasesu gan feddygon yn yr ambiwlansys y tu allan i adran achosion brys yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Roedd pedwar ambiwlans yn aros y tu allan i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth tua 2pm brynhawn dydd Mawrth.

Dywedodd un gyrrwr ambiwlans ei fod wedi bod y tu allan i'r ysbyty ers 10.15am.

Mae byrddau iechyd Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr, Caerdydd a'r Fro ac Abertawe Bro Morgannwg hefyd wedi gweld cynnydd yn y nifer o gleifion yn cyrraedd.

Camau brys

Dywedodd Mark Brandreth, cyfarwyddwr cynllunio a gweithrediadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Hoffem ymddiheuro i gleifion am ein bod yn wynebu oedi o ran trosglwyddo cleifion o ambiwlansys i'r ysbyty.

"Mae ysbytai yn brysur iawn ar draws Cymru heddiw ac mae Ysbyty Bronglais yn delio 芒 nifer o gleifion s芒l.

"Mae pob claf sydd yn aros mewn ambiwlans yn cael eu hasesu a chael eu trin yn 么l eu gofynion gan ein meddygon a nyrsys."

Ychwanegodd Mr Brandreth fod teithiau ambiwlansys i ysbytai yng Nghymru yn 22% yn uwch na'r disgwyl am yr amser hwn o'r flwyddyn.

"Rydym wedi cymryd camau brys gan gynnwys gohirio rhai llawdriniaethau oedd wedi eu trefnu i alluogi adnoddau clinigol gefnogi'r galw yn yr adran achosion brys.

"Rydym yn cydweithio gyda'm partneriaid i sicrhau nad oes oedi o ran cleifion yn dod allan o'r ysbyty a chael gofal mwy addas."