'Trin mwy o gleifion nag erioed'

Disgrifiad o'r llun, Roedd pedwar ambiwlans yn aros y tu allan i Ysbyty Bronglais brynhawn dydd Mawrth

Mae adrannau brys ar draws y wlad yn wynebu cynnydd enfawr yn y galw, gyda rhai ysbytai yn trin mwy o gleifion nag erioed o'r blaen.

Dyna ddywed Llywodraeth Cymru, sy'n annog y cyhoedd i feddwl yn ofalus cyn deialu 999.

Mae'r gaeaf bob amser yn gyfnod prysur i adrannau achosion brys, ond yn ystod y dyddiau diwethaf mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y galw wedi cynyddu'n aruthrol.

Ddydd Llun roedd dros 300 o gleifion yn cael eu gweld yn yr adran frys yn Ysbyty Treforys ger Abertawe, ac roedd galw i fyny tua 25% yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gyda llawer o'r achosion angen gofal arbenigol.

Mae ambiwlansys hefyd wedi bod yn ciwio'r tu allan i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth a dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod rhai llawdriniaethau wedi cael eu gohirio.

Mae'r cynnydd sydyn yn y galw'r gaeaf hwn yn dilyn cyfnod anarferol o brysur ar gyfer adrannau brys yr haf diwethaf.

Meddygon teulu

Mae cleifion 芒 salwch cyffredin neu f芒n anafiadau yn cael eu hannog i ymweld 芒'u meddyg teulu neu fferyllfa yn y lle cyntaf.

Dywedodd Mark Brandreth, cyfarwyddwr cynllunio a gweithrediadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bod teithiau ambiwlansys i ysbytai yng Nghymru yn 22% yn uwch na'r disgwyl am yr amser hwn o'r flwyddyn.

"Rydym wedi cymryd camau brys gan gynnwys gohirio rhai llawdriniaethau oedd wedi eu trefnu i alluogi adnoddau clinigol i gefnogi'r galw yn yr adran achosion brys.

"Rydym yn cydweithio gyda'n partneriaid i sicrhau nad oes oedi o ran cleifion yn dod allan o'r ysbyty a chael gofal mwy addas."

Teirgwaith yn fwy o alwadau brys

Yn 么l Marcus Longley, cyfarwyddwr y Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Morgannwg, mae yna gynnydd mewn galw o bryd i'w gilydd heb reswm amlwg dros hynny, ac mae hyn yn rhoi straen ar y system.

Mae yna duedd tymor hir hefyd, meddai, gyda theirgwaith yn fwy o alwadau brys y dyddiau hyn nac yr oedd ugain mlynedd yn 么l.

Yn 么l yr Athro Longley, mae'r gwasanaeth iechyd yn ei chael hi'n anodd gweithredu yn ddigon cyflym i geisio sicrhau nad oes angen i rai pobl, er enghraifft rhai gyda chyflyrau tymor hir, gael mynediad brys i ysbytai.