麻豆官网首页入口

Cyhuddo Carwyn Jones o 'economeg y casino'

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Andrew RT Davies wedi cyhuddo Carwyn Jones o 'economeg y casino'

Mae galwad gan Brif Weinidog Cymru ar y Canghellor George Osborne i fenthyca biliynau o bunnoedd wedi cael ei ddisgrifio fel "economeg y casino" gan ei wrthwynebwyr.

Wrth edrych ymlaen at y Gyllideb ddydd Mercher galwodd Carwyn Jones ar Mr Osborne i newid cyfeiriad.

Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd Mr Jones nad yw ymdrechion y llywodraeth y DU i fantoli cyfrifon y pwrs cyhoeddus yn gweithio.

Mae'r Trysorlys wedi amddiffyn y cynlluniau.

Cynlluniau

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu toriad o 40% yn ei chyllideb cyfalaf - sy'n talu am adeiladau ac isadeiledd - dros y tair blynedd nesaf.

Yn 么l Carwyn Jones, fe ddylai'r arian hynny gael ei ddychwelyd a'i gynyddu.

Byddai cynnydd o'r fath mewn gwariant ar isadeiledd am y flwyddyn nesaf yn costio tua 拢460 miliwn.

Oherwydd fformiwla Barnett - y dull a ddefnyddir i bennu maint cyllideb Llywodraeth Cymru - byddai hynny'n cyfateb i wariant o tua 拢80 biliwn ar draws y DU.

'Benthyg i fuddsoddi'

Dywedodd Mr Jones: "Mae gennym gwtogiad o 40% yn ein cyllideb cyfalaf dros dair blynedd. Adferwch hwnnw a'i gynyddu. Mae hynny'n rhoi syniad i chi o faint y cynnydd yr ydym yn son amdano.

"Cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn, mae angen iddo (y Canghellor) fedru benthyg digon o arian i gyflymu'r cynlluniau sydd gennym yng Nghymru. Yn nhermau cyffredinoli ar draws y DU, wel mae hynny'n rhywbeth iddo fe asesu.

"Mae'r ffigwr yn y biliynau yn amlwg.

"Ond mae hanes yn dangos pan ydych chi'n benthyg i fuddsoddi - yn enwedig gyda chostau benthyg mor isel ag y maen nhw ar hyn o bryd - fe allwch chi roi hwb i'r economi gan arwain at dwf yn yr economi, ac wedyn fe allwch chi edrych ar dalu'r ddyled genedlaethol."

'Barn na茂f'

Ond dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies: "Economeg y casino yw hyn.

"Mae Carwyn Jones yn glynu at y farn na茂f mai'r modd o gael y wlad allan o ddyled yw mynd i fwy o ddyled.

"Tarddiad trafferthion economaidd Prydain oedd y llywodraeth Lafur flaenorol yn gwario a benthyg gormod, gan greu'r diffyg cyllidol mwyaf ers yr Ail Rhyfel Byd.

"Mae'r Ceidwadwyr mewn llywodraeth wedi bod yn gwneud penderfyniadau anodd er mwyn lleihau'r diffyg."

Dywedodd y Trysorlys bod gan lywodraeth y DU "gynllun credadwy" ar gyfer cyfraddau llog isel, ac i adfer cyllid cyhoeddus.