麻豆官网首页入口

Trafod yr iaith wedi'r cyfrifiad

  • Cyhoeddwyd
CymraegFfynhonnell y llun, bbc

Bydd dyfodol cymunedau Cymraeg dan drafodaeth mewn cynhadledd yng Nghaernarfon ddydd Gwener.

Bydd Leighton Andrews AC, y gweinidog sydd 芒 chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, ymysg siaradwyr allweddol y digwyddiad - sy'n cael ei gynnal gan bartneriaeth 'Hunaniaith' yn Galeri, Caernarfon.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi ystadegau'r cyfrifiad a oedd yn dangos fod canran siaradwyr Cymraeg wedi gostwng ers 2001, gan amlygu fod y degawd nesaf yn gyfnod allweddol i ddyfodol yr iaith.

Pwrpas y gynhadledd fydd trafod y ffactorau sy'n dylanwadu ar sefyllfa'r iaith Gymraeg.

Bydd y materion fydd yn cael eu trafod yn cynnwys ymrwymiad Llywodraethol a deddfwriaethol, addysg Gymraeg a dwyieithog, cyfleoedd economaidd, tai a defnydd o'r Gymraeg yn gymdeithasol.

'R么l allweddol'

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd a chynrychiolydd Hunaniaith: "Sefydlwyd Hunaniaith yn 2009 fel partneriaeth strategol i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yng Ngwynedd.

"Mae'r gynhadledd hon yn gyfle i glywed siaradwyr blaenllaw ar lefel Cymru ac ar lefel ryngwladol yn cyflwyno strategaethau a syniadau amgen ar gyfer cynllunio iaith.

"Fel sir sydd 芒'r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg trwy Gymru, mae Gwynedd yn ymfalch茂o yn ei r么l allweddol i arwain, trafod ac arloesi mewn perthynas 芒 chynllunio ieithyddol, a hyrwyddo'r Gymraeg ar lefel sirol a chenedlaethol.

"Rwy'n gobeithio y bydd y gynhadledd genedlaethol hon yn ddechrau ymdriniaeth aeddfed ar yr iaith, a fydd yn gymorth i sicrhau dyfodol disglair i gymunedau Cymraeg."