麻豆官网首页入口

Gweinidog Cyfoeth Naturiol: 'Llai o bwysau ar ffermwyr'

  • Cyhoeddwyd
糯yn yn yr eiraFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cannoedd o ddefaid ac 诺yn eu claddu yn y lluwchfeydd

Mae gweinidog wedi dweud bod "lleihau pwysau" ar ffermwyr gollodd dda byw yn yr eira yn "flaenoriaeth i'r llywodraeth".

Roedd lluwchfeydd o hyd at 15 troedfedd yn golygu bod cannoedd o ddefaid ac 诺yn wedi eu claddu.

Dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies, ei fod wedi gofyn i'r Brif Swyddog Milfeddygol, yr Athro Christianne Glossop, i ystyried sut i leihau'r baich ar ffermwyr.

Roedd Undeb Amaethwyr Cymru eisoes wedi gofyn am help ar frys.

'Anodd iawn'

Dywedodd y gweinidog: "Dwi'n gwybod yn iawn am broblemau anodd iawn ffermwyr oherwydd y tywydd llym.

"Hwn yw cyfnod mwya' prysur ffermwyr defaid oherwydd wyna.

"Mae'r tywydd llym y golygu baich ychwanegol."

Roedd yr undeb wedi dweud eu bod yn poeni y gallai cannoedd o ddefaid farw wrth i'r tywydd oer barhau.

Dywedodd fod ffermwyr yn wynebu her wrth geisio cadw defaid oedd yn yr eira'n fyw heb s么n am geisio achub defaid eraill wedi eu claddu o dan luwchfeydd.

Dywedodd Gwyn Williams, rheolwr ardal yr undeb yng Nghonwy, na fyddai ffermwyr yn gwybod faint o ddefaid ac 诺yn y bydden nhw wedi eu colli tan i'r eira ddadleth.

Goroesi

Ychwanegodd y gallai defaid oroesi am wythnosau yn yr eira, yn enwedig os ydyn nhw gyda'i gilydd am eu bod yn gallu bwyta gwl芒n ei gilydd.

"Rydym yn gallu dygymod 芒'r sefyllfa am ddeuddydd neu dridiau ond fyddwn ni ddim yn gallu ymdopi am gyfnod hirach na hyn," meddai.

Dywedodd Gareth Wyn Jones, ffermwr mynydd yng Nghonwy, fod ei gi defaid wedi ei helpu i achub 70 o ddefaid o fewn dau ddiwrnod.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol