'Cadwch feddwl agored,' medd NFU

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y ffermwr Gareth Wyn Jones fod y tywydd garw wedi bod yn 'drychineb' gyda chymaint o anifeiliaid wedi marw

Mae undeb amaeth yr NFU wedi apelio ar Weinidog Cyfoeth Naturiol Cymru, Alun Davies i gadw "meddwl agored" ynghylch rhoi cymorth ariannol i ffermwyr defaid i'w digolledu am yr anifeiliaid fu farw yn ystod yr eira trwm.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd Mr Davies ei fod yn barod i drafod ffyrdd eraill o helpu ffermwyr ond na fyddai rhagor o arian ar gael.

Bydd Mr Davies yn cwrdd ag aelodau'r undeb ac aelodau'r FUW yng ngogledd Powys ddydd Iau, ar fferm Robert Jenkins, Cilhaul, Trefeglwys, Llanidloes am 3pm.

Ac mae Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad yn cynnig ymchwiliad i effaith y tywydd garw ar amaeth. Mewn llythyr at Alun Davies mae Dafydd Elis-Thomas yn dweud y dylid ystyried yr hirdymor yn ogystal 芒'r tymor byr.

Mae Llywydd NFU Cymru, Ed Bailey, wedi disgrifio penderfyniad Llywodraeth Cymru i lacio rheolau Ewropeaidd dros dro - er mwyn caniat谩u i ffermwyr gladdu anifeiliaid yn hytrach na thalu rhywun i ddod i gasglu'r cyrff - fel "cymorth bychan".

Am saith niwrnod, fe fydd gan ffermwyr mewn rhai ardaloedd yr hawl i gladdu defaid, 诺yn a lloi ar eu tir eu hunain os yw'r amgylchiadau'n anffafriol, hynny yw os nad yw casglwyr yn gallu cyrraedd y fferm.

'Graddau llawn y colledion'

Dywedodd Mr Bailey: "Rwyf yn gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi cytuno i gwrdd 芒 ni ddydd Iau ar fferm yn Sir Drefaldwyn i drafod effaith y tywydd garw ar y sector da byw yng Nghymru.

"Yn y cyfarfod hwnnw byddaf yn gofyn iddo gadw meddwl agored ar becyn cymorth ar gyfer busnesau sydd wedi cael eu heffeithio, oherwydd gallai fod yn rhai wythnosau cyn i ni wybod graddau llawn y colledion o ganlyniad i'r tywydd eithafol hwn.

"Er bod llacio rheolau claddu yn ychydig o gymorth, dwi'n ofni y bydd angen mwy o help ar lawer o ffermwyr os yw eu busnesau i wella ar 么l yr amser trawmatig diweddar".

Fe fydd yr eira a'r tywydd rhewllyd yn cael "effaith sylweddol" ar y diwydiant amaeth yng Nghymru am y flwyddyn nesaf, yn 么l Hybu Cig Cymru.

Dywedodd Gwyn Howells, prif weithredwr y mudiad: "Rydym yn disgwyl y bydd llai o 诺yn o gwmpas eleni, ac mae'r gost o gynhyrchu cig oen yn codi'n sylweddol oherwydd yr holl fwyd ychwanegol sydd ei angen ar y defaid yn ystod y tywydd oer".

'Pecyn teg'

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mercher, dywedodd Alun Davies na fyddai'n deg rhoi mwy o arian i'r diwydiant amaeth tra bod nifer o ddiwydiannau eraill hefyd wedi diodde' yn sgil yr eira diweddar.

"Wrth gwrs mae ffermwyr wedi derbyn taliadau sengl dros y misoedd diwetha'. 'Da ni wedi talu mas 拢260 miliwn gan y trethdalwyr i ffermwyr ar draws Cymru," meddai Mr Davies.

"Dwi ddim yn credu bod hi'n deg i'r trethdalwyr dalu mwy ar hyn o bryd pan mae 'na fusnesau eraill tu fas i amaeth sydd hefyd wedi diodde' dros yr wythnos ddiwetha' ond, wrth gwrs, dydyn nhw ddim yn cael unrhyw subsidy o gwbl.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n creu pecyn sy'n deg i ffermwyr, yn deg i drethdalwyr, ond hefyd gyda rhywfaint o gydbwysedd sy'n adlewyrchu'r sefyllfa yng Nghymru."

Wrth ymateb i'r ffaith bod ffermwyr yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi derbyn arian ychwanegol penodol, mynnodd Mr Davies bod hynny'n adlewyrchu'r ffaith fod y tywydd wedi bod yn waeth yn y gwledydd hynny.

"Mae'r sefyllfa fanno'n dra gwahanol - byddech chi wedi gweld hynny yn yr adroddiadau tywydd dros y penwythnos.

"Ry'n ni wedi edrych ar beth sydd wedi digwydd yng Nghymru a chreu pecyn ar gyfer anghenion Cymru."