麻豆官网首页入口

Ffermio: Gweinidog yn gwrthod ap锚l ariannol

  • Cyhoeddwyd
Y ffermwr Gareth Wyn JonesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y ffermwr Gareth Wyn Jones fod y tywydd garw wedi bod yn 'drychineb' gyda chymaint o anifeiliaid wedi marw

Mae Gweinidog Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwrthod ap锚l am gymorth ariannol i ddigolledu ffermwyr am yr anifeiliaid fu farw yn ystod yr eira trwm yn ddiweddar.

Bu Alun Davies yn cyfarfod 芒 thua 50 o ffermwyr ac aelodau undebau amaeth yr NFU a'r FUW ar fferm Robert Jenkins, Cilhaul, Trefeglwys, Llanidloes, Powys ddydd Iau.

Roedd yr NFU wedi apelio ar y Gweinidog i gadw "meddwl agored" ynghylch rhoi cymorth ariannol i ffermwyr.

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd Mr Davies ei fod yn barod i drafod ffyrdd eraill o helpu ffermwyr ond na fyddai rhagor o arian ar gael.

Ac mae Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad yn cynnig ymchwiliad i effaith y tywydd garw ar amaeth. Mewn llythyr at Alun Davies mae Dafydd Elis-Thomas yn dweud y dylid ystyried yr hirdymor yn ogystal 芒'r tymor byr.

Mae Llywydd NFU Cymru, Ed Bailey, wedi disgrifio penderfyniad Llywodraeth Cymru i lacio rheolau Ewropeaidd dros dro - er mwyn caniat谩u i ffermwyr gladdu anifeiliaid yn hytrach na thalu rhywun i ddod i gasglu'r cyrff - fel "cymorth bychan".

Am saith niwrnod, fe fydd gan ffermwyr mewn rhai ardaloedd yr hawl i gladdu defaid, 诺yn a lloi ar eu tir eu hunain os yw'r amgylchiadau'n anffafriol, hynny yw os nad yw casglwyr yn gallu cyrraedd y fferm.

'Graddau llawn y colledion'

Dywedodd Mr Bailey: "Rwyf yn gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi cytuno i gwrdd 芒 ni ddydd Iau ar fferm yn Sir Drefaldwyn i drafod effaith y tywydd garw ar y sector da byw yng Nghymru.

"Yn y cyfarfod hwnnw byddaf yn gofyn iddo gadw meddwl agored ar becyn cymorth ar gyfer busnesau sydd wedi cael eu heffeithio, oherwydd gallai fod yn rhai wythnosau cyn i ni wybod graddau llawn y colledion o ganlyniad i'r tywydd eithafol hwn.

"Er bod llacio rheolau claddu yn ychydig o gymorth, dwi'n ofni y bydd angen mwy o help ar lawer o ffermwyr os yw eu busnesau i wella ar 么l yr amser trawmatig diweddar".

Fe fydd yr eira a'r tywydd rhewllyd yn cael "effaith sylweddol" ar y diwydiant amaeth yng Nghymru am y flwyddyn nesaf, yn 么l Hybu Cig Cymru.

Dywedodd Gwyn Howells, prif weithredwr y mudiad: "Rydym yn disgwyl y bydd llai o 诺yn o gwmpas eleni, ac mae'r gost o gynhyrchu cig oen yn codi'n sylweddol oherwydd yr holl fwyd ychwanegol sydd ei angen ar y defaid yn ystod y tywydd oer".

'Pecyn teg'

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mercher, dywedodd Alun Davies na fyddai'n deg rhoi mwy o arian i'r diwydiant amaeth tra bod nifer o ddiwydiannau eraill hefyd wedi diodde' yn sgil yr eira diweddar.

"Wrth gwrs mae ffermwyr wedi derbyn taliadau sengl dros y misoedd diwetha'. 'Da ni wedi talu mas 拢260 miliwn gan y trethdalwyr i ffermwyr ar draws Cymru," meddai Mr Davies.

"Dwi ddim yn credu bod hi'n deg i'r trethdalwyr dalu mwy ar hyn o bryd pan mae 'na fusnesau eraill tu fas i amaeth sydd hefyd wedi diodde' dros yr wythnos ddiwetha' ond, wrth gwrs, dydyn nhw ddim yn cael unrhyw subsidy o gwbl.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n creu pecyn sy'n deg i ffermwyr, yn deg i drethdalwyr, ond hefyd gyda rhywfaint o gydbwysedd sy'n adlewyrchu'r sefyllfa yng Nghymru."

Wrth ymateb i'r ffaith bod ffermwyr yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi derbyn arian ychwanegol penodol, mynnodd Mr Davies bod hynny'n adlewyrchu'r ffaith fod y tywydd wedi bod yn waeth yn y gwledydd hynny.

"Mae'r sefyllfa fanno'n dra gwahanol - byddech chi wedi gweld hynny yn yr adroddiadau tywydd dros y penwythnos.

"Ry'n ni wedi edrych ar beth sydd wedi digwydd yng Nghymru a chreu pecyn ar gyfer anghenion Cymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol