麻豆官网首页入口

Cynllunio a'r iaith: 'Angen corff annibynnol'

  • Cyhoeddwyd
Gwaith Adeiladu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r datblygwyr am godi 289 o dai ar y safle ger Rhydaman

Mae pennaeth adran gynllunio Cyngor Sir G芒r wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried creu corff annibynnol fyddai'n cynghori awdurdodau lleol sut i ddelio 芒 cheisiadau dadleuol allai effeithio ar y Gymraeg.

Dywedodd Eifion Bowen wrth raglen Newyddion 麻豆官网首页入口 Cymru fod awdurdodau lleol yn gallu gofyn i ddatblygwyr baratoi Asesiad Effaith Iaith.

Mae'r ffrae am gynlluniau i adeiladu cannoedd o gartrefi ym Mhenybanc ger Rhydaman yn parhau.

Ar hyn o bryd mae datblygwr yn gallu comisiynu asesiadau ei hun ac mae asesiad Swallow Properties yn awgrymu y byddai'r effaith ar y Gymraeg yn yr ardal yn "fuddiol".

Ond mae asesiad gafodd ei gomisiynu gan Gyngor Cymuned Llandybie wedi awgrymu y byddai'r effaith yn andwyol.

Dadl gref

Dywedodd Mr Bowen y byddai corff annibynnol yn ddadl gref yn erbyn honiadau bod asesiadau'n tueddu fod o blaid datblygwyr.

Mae nifer o geisiadau "galw i mewn" wedi eu cyflwyno yn achos cais cynllunio Fferm Tirychen wedi i ganiat芒d cynllunio gael ei gymeradwyo ar gyfer 289 o dai.

TAN 20 yw'r unig ganllaw cenedlaethol sy'n bodoli o ran sut y dylai awdurdodau lleol Cymru ddelio 芒 cheisiadau allai effeithio ar siaradwyr Cymraeg lle mae'r iaith Gymraeg yn "rhan o'r drefn gymdeithasol."

Eisoes mae aelod o bwyllgor cynllunio'r sir wedi dweud wrth Newyddion fod angen diwygio TAN 20 ar frys ac mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi dweud ei bod yn cytuno.

Mewn datganiad dywedodd hi fod 'na "bryder go iawn y gallai'r Gymraeg gael ei hanwybyddu yn ystod y broses gynllunio...

"Fe allai hyn gael effaith andwyol ar gymunedau lle mae'r iaith Gymraeg mewn sefyllfa beryglus."

Diwygio

Ychwanegodd fod angen i Lywodraeth Cymru ddatgan pryd y byddai'r ddogfen yn cael ei diwygio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae 'na ddisgwyl i awdurdodau lleol ddarparu cynllun datblygu lleol sy'n datgan eu polis茂au o ran defnydd a datblygu tir dros 15 mlynedd.

"Mae gennym gorff annibynnol, Yr Arolygiaeth Gynllunio, fydd yn arolygu cynllun datblygu Sir G芒r maes o law, gan gynnwys yr effaith ar yr iaith Gymraeg ...

"Mae gan awdurdodau lleol neu grwpiau yr hawl i ddarparu canllawiau os ydyn nhw'n meddwl bod yr angen amdanyn nhw. Does dim angen corff newydd ar gyfer hyn."

Dywedodd eu bod yn ymgynghori ynghylch diwygio TAN 20 a bod y prosiect bron 芒 gorffen.

Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2011, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn dangos bod llai'n siarad Cymraeg yn y sir.

Yn ardal Rhydaman mae 49.9% yn siarad Cymraeg tra oedd 61.46% yn 2001.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol