Adolygiad: Cwtogi nifer y cynghorau?

Disgrifiad o'r llun, Eisoes mae galwadau wedi bod i uno adrannau unigol rhai cynghorau

Gallai trefn llywodraeth leol yng Nghymru gael ei gweddnewid yn dilyn cyhoeddi adolygiad i'r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd ad-drefnu mawr yn digwydd cyn Etholiad y Cynulliad yn 2016.

Ond mae'r adolygiad yn cael ei weld fel ymgais i gyrraedd rhyw fath o gonsensws i gwtogi nifer y cynghorau. Mae yna 22 awdurdod ar hyn o bryd.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones mewn datganiad ysgrifenedig y byddai'n datgelu manylion y comisiwn fydd yn cynnal yr adolygiad maes o law.

Syr Paul Williams fydd Cadeirydd y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae o yn gyn brif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mi fydd y comisiwn hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r prif bleidiau gwleidyddol a llywodraeth leol.

Arbed miliynau

Dros y misoedd diwethaf mae ffigyrau amlwg yn y cynghorau sir wedi galw am uno cynghorau.

Y tro diwethaf i lywodraeth leol yng Nghymru weld ad-drefnu mawr oedd yn 1995 - ad-drefnu a welodd greu 22 o awdurdodau lleol yn lle'r saith blaenorol.

Ym mis Mawrth awgrymodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards, bod modd arbed miliynau o bunnoedd pe bai'r chwe awdurdod lleol yn y gogledd yn cael eu had-drefnu i greu dim ond dau.

Dywedodd y byddai creu un cyngor i'r gogledd-ddwyrain ac un i'r gogledd-orllewin yn gallu ateb "her ariannol sylweddol".

'Dal i gyfrif'

Wrth gyhoeddi'r comisiwn, dywedodd Carwyn Jones:

"Bydd cyllidebau'r sector cyhoeddus yn parhau i grebachu a'r pwysau arnyn nhw yn cynyddu, yn 么l pob golwg.

"Mae'n amlwg felly fod angen ystyried yn ofalus sut mae cynnal gwasanaethau a chodi safonau perfformio, fel y gall pobl Cymru barhau i gael y gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr y mae arnyn nhw eu hangen"

"Fel y gallwn weld o effaith penderfyniadau ariannol presennol Llywodraeth y DU, mae sector cyhoeddus iach yn hanfodol er mwyn sicrhau economi iach.

Dywedodd Carwyn Jones y bydd y Comisiwn yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n darparu'r gwasanaethau cyhoeddus a'r defnyddwyr i ystyried y ffyrdd mwyaf effeithiol o'u gweithredu yn y dyfodol.

Croesawu'r Comisiwn

Ar y Post Cyntaf bore Gwener cafodd y Comisiwn ei groesawu gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC Dwyfor Meirionnydd. Dywedodd bod arbenigwyr yn y maes polisi cymdeithasol wedi bod yn galw ers blynyddoedd am wella'r berthynas rhwng y gwasanaethau cymdeithasol gofal 芒'r gwasanaethau iechyd.

"Beth sydd ei angen ydi gwasanaethau sy'n amlwg yn cwrdd 芒'r anghenion lleol ond yn cael eu gweinyddu o safon uchel yn genedlaethol"

Dros y misoedd diwethaf, mae uno adrannau cynghorau wedi cael eu crybwyll fel modd o wella perfformiad.

Mae galw ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i ystyried uno'u gwasanaeth addysg gyda awdurdod lleol cyfagos Merthyr Tudful. Yn y cyfamser, mae Cyngor Caerffili wedi gwrthod galwad i uno eu hadran gwasanaethau cymdeithasol gydag un Blaenau Gwent.