麻豆官网首页入口

Adolygiad i wasanaeth addysg llywodraeth leol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Leighton Andrews
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Leighton Andrews am adolygiad o'r gwasanaeth ar draws Cymru

Gallai llywodraeth leol golli eu cyfrifoldeb am ysgolion Cymru wrth i adolygiad gael ei gynnal.

Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, nad oedd yn diystyru dim wrth gyhoeddi'r adolygiad am strwythur y gwasanaethau addysg.

Eisoes mae wedi dweud bod gormod o awdurdodau addysg yng Nghymru.

Mae wedi ceisio cael yr awdurdodau i gyd-weithio ond wedi dweud bod y broses yn "rhy araf".

Un o'r opsiynau ar gyfer yr ymchwiliad fydd creu byrddau ysgolion rhanbarthol.

Mewn datganiad yn y Cynulliad dywedodd y gweinidog ei fod wedi rhoi cyfle ac amser i'r awdurdodau gael trefn ond bod tystiolaeth lethol yn dangos nad oedd hyn wedi digwydd.

Lansiodd Llywodraeth Cymru raglen adolygu eang ar 么l canlyniadau siomedig cymhariaeth ryngwladol safon ysgolion yn 2009.

'Cynnydd araf'

Mae'r awdurdodau wedi eu rhoi mewn pedwar consortiwm lleol gyda'r dasg o wella safon ysgolion.

Ers Medi maen nhw wedi bod yn weithredol ond dywedodd Mr Andrews bod y "cynnydd ar y cyfan, yn araf".

Wrth amlinellu'r adolygiad, dywedodd y byddai'n ystyried a ddylai cyfrifoldeb am wella ysgolion gael ei gymryd oddi wrth yr awdurdodau lleol.

Fe fydd yn ystyried a fydd adrannau addysg yn cael eu huno a'u rhoi o dan reolaeth sawl awdurdod ar y cyd.

Rhybuddiodd y gallai dynnu cyfrifoldeb addysg yn llwyr oddi ar lywodraeth leol a chreu byrddau ysgolion rhanbarthol fyddai'n atebol i Lywodraeth Cymru.

Fe fydd yr adolygiad yn ystyried nifer o opsiynau, gan gynnwys:

  • a ddylid cyflwyno systemau gweithredu rhanbarthol a beth ddylai'r ffiniau rhanbarthol fod;

  • a ddylai awdurdodau lleol golli cyfrifoldebau mewn perthynas 芒 gwella ysgolion ac a ddylid eu symud i wasanaeth rhanbarthol fyddai'n atebol i Lywodraeth Cymru;

  • ystyried a ddylai adrannau addysg uno a chael eu rheoli ar y cyd gan nifer o awdurdodau lleol;

  • a oes angen mynd ymhellach a chreu byrddau ysgolion rhanbarthol fyddai'n atebol i Lywodraeth Cymru.

Fe fydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan gr诺p o dan gadeiryddiaeth Glyn Mathias a fydd yn adrodd yn 么l i'r gweiniodg erbyn mis Mawrth 2013.

Eglurodd bod y corff arolygu, Estyn, ers 2010 wedi cyhoeddi 15 adroddiad am safon addysg cynghorau Cymru.

Nododd bod dau, Ynys M么n a Blaenau Gwent, wedi gorfod cyflwyno mesurau arbennig a bod tri awdurdod, Penfro, Powys a Thorfaen, angen gwelliant sylweddol.

Roedd safon pum sir yn ddigonol, Wrecsam, Caerdydd, Fflint, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, a phump yn dda, Casnewydd, Conwy, Dinbych, Caerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot.

Ym mis Gorffennaf wrth ymateb i adroddiad beirniadol am gyflwr addysg Cyngor Ynys M么n, roedd y gweinidog wedi dweud ei fod "yn poeni am ansawdd y gwasanaethau addysg y mae llywodraeth leol Cymru yn eu cynnig.

'Cam cywir?'

Ar y pryd dywedodd: "Dwi'n meddwl ei fod yn achos o bryder gwirioneddol.

"Dydi hyn [22 awdurdod] ddim wedi ein cynorthwyo i adeiladu system addysg gref yng Nghymru."

Dydd Mawrth gofynnodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Angela Burns: "A ydyn ni wir yn credu mai canoli ydi'r cam cywir ymlaen?"

Dywedodd Dr Philip Dixon, Cyfarwyddwr Addysg Undeb ATL Cymru, ei bod yn amlwg fod Mr Andrews wedi colli amynedd oherwydd agwedd awdurdodau lleol.

"O leia nawr, fe all dadl gael ei chynnal drwy ymgynghori 芒 phawb.

"Mae rhai o'r argymhellion yn bellgyrhaeddol iawn ond mae rhan o'i ddadansoddiad yn canu cloch gyda'n haelodau."

Dywedodd Anna Brychan, Cyfarwyddwr Undeb NAHT Cymru, ei bod yn cydnabod bod "rhai o'r cynigion yn ddramatig".

"Fe fyddwn ni'n rhybuddio, er enghraifft, am dynnu atebolrwydd llwyr am safon addysg yn lleol.

"Mae'r amser yn iawn i gynnal adolygiad ond ein pryder ni ydi nad ydyn ni'n anghofio ei bod yn allweddol bwysig bod ysgolion yn cael y gefnogaeth gywir heddiw."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol