Ffatri gig i greu 300 o swyddi?

Disgrifiad o'r llun, Mae cwmni 2 Sisters yn teimlo'n 'bositif' wrth ddechrau trafodaethau am shifft newydd yn Llangefni

Gallai hyd at 300 o swyddi gael eu creu mewn ffatri brosesu cig ar Ynys M么n.

Mae perchnogion y ffatri - 2 Sisters Food Group - wedi dechrau ymgynghori gydag undeb Unite am greu ail shifft yn y safle yn Llangefni.

Gallai hynny ddyblu'r gweithlu yn safle cyn ladd-dy Welsh Country Foods a gafodd ei brynu gan gwmni Vion ym mis Mawrth.

Caeodd safle arall Vion yn y Gaerwen yn gynharach y mis yma gan arwain at golli dros 300 o swyddi.

Cafodd bron 3,000 o swyddi eu gwarchod mewn tair ffatri brosesu cig yng Nghymru pan brynodd 2 Sisters safleoedd Vion.

Mae Andrew Hanson o'r 2 Sisters Food Group wedi cadarnhau bod cyfnod ymgynghori yn dechrau'r wythnos hon yngl欧n 芒 chreu ail shifft yn lladd-dy dofednod Llangefni.

Ond mae'n parhau yn ofalus am greu swyddi, gan ddweud bod potensial i greu 300 o swyddi "rhai blynyddoedd yn y dyfodol".

'Positif iawn'

Mae'r cwmni yn dal i wneud colled yn flynyddol, ac mae digon i'w drafod gyda'r undeb o safbwynt shifft newydd, meddai.

Ond ychwanegodd bod 2 Sisters yn gwmni sy'n tyfu, a'u bod yn teimlo'n "bositif" wrth fynd i mewn i drafodaethau.

Dywedodd Paddy McNaught o undeb Unite: "O'r cyfarfodydd yr ydym wedi eu cael am shifftiau newydd mae'r potensial yna am 200-300 o swyddi newydd.

"Rwy'n hyderus y bydd hyn yn digwydd, oherwydd yn dil y sgandal cig ceffyl mae'r archfchnadoedd mawr yn prynu cig yn lleol yn y DU.

"Mae'n newyddion positif iawn oherwydd rydym wir angen swyddi ar Ynys M么n."