麻豆官网首页入口

Profion llythrennedd newydd i ddisgyblion yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth ysgol gynraddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd disgyblion o flynyddoedd 2 i 9 yn sefyll y profion

Bydd disgyblion yn ysgolion Cymru yn sefyll y profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol newydd am y tro cyntaf ddydd Mercher.

Cafodd y profion eu cyflwyno fel rhan o gynllun y Gweinidog Addysg Leighton Andrews i godi safonau mewn ysgolion.

Bydd y profion yn disodli'r profion a gafodd eu cynhyrchu'n fasnachol ac a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan ysgolion.

Bydd disgyblion o flynyddoedd 2 i 9 yn sefyll y profion.

Pryder

Yn adroddiad blynyddol Estyn - y corff arolygu ysgolion yng Nghymru - a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr, mynegwyd pryder am safon sgiliau darllen, llythrennedd a rhifedd ar draws holl sectorau ysgolion Cymru.

Yn sesiwn holi'r prif weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, fe gafodd Carwyn Jones ei holi am sylwadau mwy diweddar gan bennaeth Estyn, Ann Keane, bod lefelau llythrennedd a rhifedd yn parhau i fod yn fater o bwys yn yr ysgolion ac nad yw arolygwyr yn sylwi ar y "gwelliannau systemig" y mae hi am eu gweld.

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams bod "llythrennedd a rhifedd yn parhau i fod yn broblem sylweddol yn y system addysg Gymreig".

Cyhuddodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood y gweinidog addysg o fod ag "obsesiwn gyda strwythur a newid o fewn y system addysg ar draul canlyniadau".

Dywedodd y prif weinidog ei fod yn hyderus y bydd y mesurau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i godi safonau, fel profion llythrennedd a rhifedd, yn sicrhau bod ein system addysg "i fyny yno gyda'r gorau yn Ewrop", ond mae'r gwrthbleidiau yn anhapus gyda pholis茂au Llywodraeth Cymru yn y maes.

'Angen gwella'

Wrth i'r profion cenedlaethol ddechrau, dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews:

"Rydym yn gwybod o asesiad rhyngwladol PISA yn 2010 ac o adroddiadau gan Estyn bod safonau llythrennedd a rhifedd yng Nghymru angen gwella.

"Hyd yma, mae ysgolion wedi defnyddio'u profion eu hunain i asesu gwelliant disgybl, ond gan fod ysgolion yn defnyddio profion gwahanol does dim darlun clir yn genedlaethol o sut y mae dysgwyr yn perfformio.

"Rydym wedi ystyried effaith y profion yma ar athrawon a dysgwyr ar bob cam o'r broses ddatblygu ac wedi edrych ar ffyrdd o leihau'r pwysau gwaith ar athrawon.

"Yn ogystal rydym yn darparu pecyn cefnogaeth gwerth 拢700,000 i ysgolion, a fydd yn talu am unrhyw gostau ychwanegol sy'n ymwneud 芒 goruchwylio, marcio a chyhoeddi data wrth i ysgolion symud i'r drefn newydd yma o asesu cenedlaethol.

"Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweithio'n agos gydag ysgolion wrth i ddisgyblion ddechrau sefyll y profion newydd ac rydym yn awyddus i glywed barn athrawon, dysgwyr a rhieni trwy gydol y broses."

Cafodd y profion llythrennedd a rhifedd eu datblygu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Addysgol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol