Rali i wrthwynebu newidiadau addysg

Disgrifiad o'r llun, Mae'r NUT a'r NASUWT yn anhapus gyda'r newidiadau i gyflogau athrawon

Mae rali yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd gan undebau athrawon am eu bod yn anhapus gyda'r newidiadau mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyflwyno i gyflogau athrawon.

Maent hefyd yn teimlo bod pwysau cynyddol yn cael ei rhoi ar ysgwyddau athrawon Cymru yn sgil newidiadau i godi safonau addysg.

Dyma'r drydedd gyfres o Ral茂au addysg sydd wedi eu trefnu gan yr NASUWT a'r NUT a bydd y digwyddiad yn cychwyn am 11am yn Arena Motorpoint ddydd Sadwrn.

Disgwylir i Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUT Christine Blower ac Ysgrifennydd Cyffredinol yr NASUWT Chris Keates i annerch y dorf.

Bydd athrawon a rheini hefyd yn siarad.

Cafwyd ral茂au eraill yn ddiweddar yn Lerpwl, Manceinion, Leeds a Birmingham.

Mae'r ddau undeb gyda'i gilydd yn cynrychioli ryw 35,000 o athrawon ar draws Cymru.

Newidiadau cyflogau

Er bod addysg wedi ei ddatganoli, Michael Gove, y Gweinidog Addysg yn San Steffan sydd yn gyfrifol am amodau cyflogau.

Mae ef wedi dweud na fydd athrawon yn derbyn codiad cyflog yn unol gyda faint o flynyddoedd o wasanaeth maen nhw wedi rhoi i'r proffesiwn fel oedd yn digwydd yn y gorffennol ond yn hytrach yn 么l eu perfformiad.

Er y bydd isafswm ac uchafswm cyflog yn parhau, prifathrawon a llywodraethwyr ysgolion fydd yn pennu faint o gyflog fydd athrawon yn derbyn rhwng y ddau begwn hynny.

Fe allai hyn olygu y bydd prifathrawon yn penderfynu peidio rhoi codiad cyflog i athrawon er mwyn arbed arian meddai Geraint Davies, Ysgrifennydd Cymru ar gyfer yr NASUWT:

"Rydyn ni yn rhagweld bydd hyn yn gosod pwysau ychwanegol ar athrawon i gymryd cyfrifoldebau ychwanegol a hynny yn ddi-d芒l."

Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud bod y newidiadau yn gyfiawn a'i bod wedi cyfarfod gyda'r undebau i drafod eu pryderon ac am barhau i wneud hynny yn y dyfodol:

"Rydyn ni yn meddwl bod rhoi rhyddid i ysgolion i wobrwyo perfformiadau da yn llawer tecach na'r system bresennol lle mae mwyafrif o athrawon yn cael codiad cyflog bob blwyddyn yn awtomatig."

Streicio yn bosib

Mae Geraint Davies hefyd yn dweud eu bod yn anhapus gyda'r pwysau cynyddol ar ysgwyddau athrawon Cymru gan y Gweinidog Addysg yng Nghymru, Leighton Andrews:

"Y neges yn syml yw ein bod ni eisiau dweud wrth y ddau weinidog ein bod ni yn gwrthwynebu newidiadau yn y maes addysg a dydyn ni ddim yn fodlon eu derbyn nhw."

Dywed ef mae dim ond 'man cychwyn' yw'r rali. Mae disgwyl streic undydd yng Ngogledd Orllewin Lloegr mis nesaf ac mae'n dweud y byddan nhw yn barod i wneud yr un peth yng Nghymru os na fydd yr anghydfod yn cael ei ddatrys.

"Dyma'r peth olaf rydyn ni eisiau fel undeb ond heb ddeialog, heb drafodaeth a heb ddatrysiad fe fydd y proffesiwn yn barod i gymryd y cam nesaf a chynnal streic yn ystod tymor yr hydref."

Mesurau

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod Mr Andrews yn gwrthod y syniad o gyflog yn dibynnu ar berfformiad, gan ddweud:

"Mae'r gweinidog wedi pwysleisio yn ei dystiolaeth i'r Bwrdd Adolygu Athrawon Ysgolion nad yw'n credu bod angen cysylltu cyflog a pherfformiad pan mae system effeithiol o reoli perfformiad eisoes mewn lle.

"Mae e hefyd wedi dweud yn gyson y dylem gadw strwythur cyflog cenedlaethol i athrawon yng Nghymru a Lloegr.

"Does dim dadl bod angen gwella safonau a pherfformiad mewn ysgolion yng Nghymru. Mae canlyniadau PISA yn 2010 a thystiolaeth gan Estyn a chanlyniadau arholiadau yn cadarnhau'r angen brys am hynny.

"Mae'r gweinidog wedi cyhoeddi nifer o fesurau i godi safonau a pherfformiad mewn addysg. Byddwn yn parhau i weithredu'r mesurau hyn i godi lefelau llythrennedd a rhifedd a thorri'r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad isel a thlodi."