麻豆官网首页入口

Arholiadau: 'Trefn ar wah芒n'

  • Cyhoeddwyd
Michael Gove a Leighton Andrews
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Michael Gove (chwith) wedi dweud wrth Leighton Andrews fod rhaid i Lywodraeth Cymru dorri ei chwys ei hun

Mae Ysgrifennydd Addysg y DU wedi dweud ei fod yn credu ei bod yn bryd i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sefydlu eu trefn eu hunain ar gyfer arholiadau TGAU a Safon Uwch.

Awgrymodd Michael Gove fod y gwahaniaethau rhwng y tair gwlad yn golygu y byddai hi'n well sefydlu trefniadau ar wah芒n.

Y llynedd fe roddodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, orchymyn i ail-raddio 2,300 o bapurau arholiad TGAU Saesneg

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth: "Bydd Cymru yn cadw arholiadau TGAU a Safon Uwch ... bydd hynny yn digwydd hefyd yng Ngogledd Iwerddon.

"Rydym ni yn dymuno'n dda i Mr Gove gyda'i gynlluniau i newid y cymhwysterau yn Lloegr."

'Canlyniad naturiol'

Mewn llythyr at Weinidogion Addysg Cymru a Gogledd Iwerddon dywedodd Mr Gove fod sefydlu trefniadau ar wah芒n i arholiadau TGAU a Safon Uwch yn "ganlyniad naturiol a dilys i ddatganoli".

Roedd Mr Gove yn trafod gyda Mr Andrews a John O'Dowd, Gweinidog Addysg Gogledd Iwerddon, yr wythnos diwethaf.

Yn ei lythyr dywedodd ei bod yn bryd i'r tair gwlad gydnabod mai'r ffordd ymlaen fyddai mabwysiadu eu systemau arholiadau eu hunain.

Hyd yn hyn mae Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi rhannu cynhwysterau ac un sustem reoleiddio arholiadau.

Ond yn haf 2012 roedd ffrae yngl欧n ag ail-raddio papurau arholiad TGAU Saesneg.

'Yn annheg'

Cafodd papurau cannoedd o fyfyrwyr eu hail-raddio wedi i Mr Andrews fynnu bod y canlyniadau gwreiddiol wedi bod yn "annheg" i fyfyrwyr yng Nghymru.

Fe wrthododd Ofqual, corff rheoleiddio'r arholiadau, gais tebyg i ail-raddio papurau TGAU Saesneg yn Lloegr.

Ym mis Medi 2012 cyhoeddodd Mr Gove newidiadau i arholiadau yn Lloegr.

Awgrymodd y dylai Tystysgrif Bagloriaeth ddisodli arholiadau TGAU yn Lloegr yn y pynciau craidd.

Mae Mr Andrews a Mr Dowd wedi dweud eu bod nhw yn anfodlon fod Mr Gove wedi gwneud cyhoeddiad yngl欧n 芒 dyfodol arholiadau TGaU a Safon Uwch yng Nghymru a Gogledd Iwerddon heb ymghynghori gyda nhw.