Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn colli gwasanaethau arbenigol?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'n rhaid cyflwyno newid, medd y byrddau iechyd, am fod pwysau ar y gwasanaethau arbenigol

Fe allai rhai gwasanaethau arbenigol mewn ysbytai chwalu os nad yw newidiadau mawr yn cael eu gwneud.

Dyna rybudd byrddau iechyd de Cymru ddydd Mercher wrth gyhoeddi cynlluniau i ganoli rhai adrannau arbenigol mewn pum ysbyty.

Prinder doctoriaid sydd yn cael y bai am y pwysau cynyddol ar rai adrannau mewn ysbytai.

Colli

Os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo bydd Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant yn colli rhai o'r gwasanaethau arbenigol.

Ar hyn o bryd mae wyth ysbyty yn ne Cymru yn cynnig cyfuniad o unedau gofal brys a gwasanaethau arbenigol i blant a babanod.

Yr argymhelliad mae'r byrddau iechyd yn ei awgrymu yw bod y rhain yn cael eu cwtogi i bum ysbyty - yng Nghaerdydd, Abertawe, Merthyr, Pen-y-bont, ac ysbyty newydd fydd yn cael ei adeiladu ger Cwmbr芒n.

Er y byddai'r ysbyty yn Llantrisant yn colli rhai gwasanaethau, mae rheolwyr iechyd yn dweud y bydd yr ysbyty yn parhau i ddarparu'r rhan fwyaf o'r gofal sydd ar gael ar hyn o bryd.

Maen nhw wedi dweud bod angen newid er mwyn sicrhau bod yr hyn sydd yn cael ei gynnig i gleifion yn saff yn y dyfodol ac i ymateb i'r prinder doctoriaid a'r ffaith fod pobl yn byw yn hirach.

2012

Ers dechrau 2012 mae pum bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i lunio cynlluniau sydd yn ymwneud ag ysbytai rhwng Abertawe a Chasnewydd.

Mae'r cynlluniau wedi canolbwyntio ar y gwasanaethau:

Gofal mamolaeth ymgynghorol (obstetreg);

Gofal arbenigol ar gyfer babanod (newydd-enedigol);

Gofal arbenigol ar gyfer plant (pediatreg);

Meddygaeth brys (damweiniau ac achosion brys).

Maen nhw wedi bod yn trafod a ddylid canoli rhai gwasanaethau i bump neu bedair canolfan.

Ymgynghoriad

Bydd ymgynghoriad yn digwydd am ddau fis i benderfynu os mai'r ysbyty ym Merthyr, Pen-y-bont neu Lantrisant ddylai fod y bedwaredd neu'r bumed canolfan.

Ond mae swyddogion iechyd yn argymell cadw'r gwasanaethau arbenigol yn Ysbyty y Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi ystyried ffactorau megis amseroedd teithio, yr effaith ar y gwasanaethau ambiwlans a'r gost cyn cyhoeddi'r cynlluniau.

Dywedodd Dr Graham Shortland, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Ni allwn barhau i ddarparu gofal newydd-anedig a mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol, gwasanaethau plant cleifion mewnol a meddygaeth frys (damweiniau ac achosion brys) i'r cleifion mwyaf tost ac sydd wedi'u hanafu fwyaf difrifol ym mhob ysbyty.

"Nid ydym yn darparu gofal o'r ansawdd uchaf i bob claf bob amser, ac mae meddygon yn rhy wasgarog.

"Bydd canolbwyntio'r gwasanaethau hyn mewn llai o ysbytai yn ne Cymru yn golygu y bydd cleifion ag anafiadau neu salwch sy'n peryglu bywyd yn gallu gweld uwch glinigwyr yn gyflymach pan fyddant yn dod i'r ysbyty, a fydd yn golygu y c芒nt eu trin yn gyflymach ac yn gwella'n gynt.

"Bydd y newidiadau hefyd yn helpu i wella ansawdd y gofal a roir i bob claf pan maent yn dod i'r ysbyty yn y dyfodol oherwydd byddant yn derbyn gofal gan y clinigwr mwyaf priodol i'w hanghenion."

Ymgyrchu

Ond mae gwleidyddion wedi ymateb yn gryf, gan gynnwys aelodau Llafur sydd wedi dweud y byddan nhw'n ymgyrchu i gadw'r unedau arbenigol i gyd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Mae Mick Antoniw, Chris Bryant ac Owen Smith yn gwrthwynebu'r cynlluniau ar gyfer yr ysbyty - a Leighton Andrews, gweinidog yng nghabinet Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Antoniw AC Pontypridd: "Rydyn ni yn derbyn yr angen am newid ac am ad-drefnu yn y Gwasanaeth Iechyd os ydyn ni am gael gwasanaethau saff o'r safon uchaf yn y dyfodol.

"Dyw gwneud dim byd ddim yn opsiwn.

"Rydyn ni fodd bynnag wedi ein hargyhoeddi fel rhan o'r newidiadau hyn fod yn rhaid i uned ddamweiniau brys gael ei chadw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a gwasanaethau arbenigol eraill.

"Rydyn ni yn bwriadu sicrhau cefnogaeth yn y gymuned ar gyfer y nod a byddwn ni yn cyflwyno achos positif ac adeiladol yn ystod y broses ymgynghori."

'Cronig'

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, y byddai pobl y Cymoedd yn bryderus am y newidiadau a bod y gwasanaethau arbenigol y mae'r ysbyty yn Llantrisant yn eu cynnig yn bwysig.

"Mae Rhondda Cynon Taf yn ardal lle mae llawer sy'n byw yno gyda phroblemau iechyd cronig. Mae'r rhwydwaith ffyrdd yn wael.

"Y gwasanaeth ambiwlans yno yw'r un sydd wedi perfformio waethaf yng Nghymru wrth ymateb i alwadau lle mae bywyd person yn fantol."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar AC: "Mae'r opsiynau yn sgil toriadau Llafur yn y Gwasanaeth Iechyd sy'n effeithio'n ysgytwol o hyd ar ein hysbytai.

"Dyw cwtogi ar wasanaethau brys yn ein hysbytai ddim yn mynd i ddatrys yr argyfwng.

"Yn lle hynny bydd y cynlluniau'n golygu mwy o bwysau ar Wasanaeth Ambiwlans sydd eisoes o dan bwysau..."

Gofalus

Croeso gofalus mae'r Aelod Cynulliad ar gyfer De Orllewin Cymru, Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhoi i'r cyhoeddiad.

Er ei fod yn dweud nad yw hi yn debygol y bydd gwasanaethau yn cael eu colli yn lleol mae'n pwysleisio na ddylai trigolion bwyso ar eu rhwyfau. "Dyw'r penderfyniad olaf ddim yn digwydd tan fis Hydref.

"Mae angen i ni felly aros yn wyliadwrus a pharhau i gyflwyno'r achos bod y gwasanaethau yn aros yn lleol a sicrhau yn fwy na dim bod yr ymgynghoriad yn adlewyrchu barn trigolion Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Phen-y-bont."