'Gwerth economaidd ddwbl cyllid flynyddol'

Ffynhonnell y llun, S4C

Mae astudiaeth economaidd wedi dangos bod pob 拢1 y mae S4C yn ei gwario ar gynnwys yn creu bron 拢2 o werth ychwanegol i economi Cymru.

Yn 么l cwmni Arad, mae pob 拢1 o wariant S4C yn y diwydiannau creadigol yn creu effaith economaidd o 拢1.95 ar y diwydiannau yng Nghymru.

Dangosodd yr ymchwil fod gwariant cychwynnol o 拢63.7m gan S4C ar raglenni a chynnwys yn 2012 gan gwmn茂au annibynnol yng Nghymru wedi creu effaith economaidd ychwanegol o 拢60.5m ac effaith economaidd gyfan o 拢124.3m ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Yn 么l Prif Weithredwr S4C, mae'r ymchwil yn dangos bod S4C yn chwarae r么l bwysig yn gyrru gweithgaredd economaidd ymlaen, ac yn cynnal miloedd o swyddi.

'2000 o swyddi'

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Mae'n glir o'r gwaith ymchwil fod gwerth economaidd S4C i Gymru yn sylweddol iawn.

"Mae'r ffigyrau'n dangos bod gwerth y sianel i'n heconomi bron dwbl y swm sy'n cael ei dalu i mewn i S4C o ffynonellau cyhoeddus.

"Roedden ni eisoes yn ymwybodol bod tua 2000 o swyddi'n cael eu cynnal gan weithgaredd S4C.

"Mae'r ymchwil yma'n dangos pa mor bwysig mae hi wedi bod inni flaenoriaethu gwariant ar gynnwys yn ystod y cyfnod o dorri ariannol ac mae'n glir bod S4C yn llwyddo i chwyddo gwerth yr arian ry' ni'n ei dderbyn er mwyn creu buddiannau llawer mwy i economi Cymru gyfan."