麻豆官网首页入口

S4C: Cwtogi cyfraniad San Steffan?

  • Cyhoeddwyd
S4C

Bydd cyfraniad llywodraeth y DU i gyllideb S4C yn cael ei gwtogi ymhellach yn 么l prif weithredwr y sianel.

Dywedodd Ian Jones bod llywodraeth y DU wedi rhoi gwybod iddo y bydd y cyfraniad yn cael ei dorri o ychydig dros 1% yn rhagor am y ddwy flynedd nesaf.

Yn sgil y Gyllideb a gafodd ei chyhoeddi gan y Canghellor George Osborne fis Mawrth, dywedodd Ian Jones mewn cyfweliad 芒 rhaglen Manylu 麻豆官网首页入口 Cymru fod adran ddiwylliant y Llywodraeth, DCMS, wedi dweud y bydd 1.09% yn llai o arian ar gael i S4C ar gyfer 2013/14.

Y flwyddyn ganlynol, fe fydd y gyllideb yn lleihau 1.06% yn ychwanegol.

Roedd y Llywodraeth wedi cytuno i gyfrannu 拢6.7m i gyllideb S4C yn 2013/14 a 拢7m yn 2014/15 ar 么l cytundeb i ariannu mwyafrif cyllideb y sianel o ffi'r drwydded.

Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo yn y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus i ddarparu arian digonol i S4C.

Adolygiad gwariant

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

"Ry'n ni wedi cael gwybod gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol am y toriadau pellach i'w cyllideb ar gyfer darlledu Cymraeg, ac ry'm ni'n gweithio'n fewnol i ddelio gyda sgil effeithiau hynny.

"Mae'r toriadau hyn yn ychwanegol i'r toriad o 36% mewn termau real i'n cyllideb ers 2010.

"Ry'n ni wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ac ry'n ni am barhau i drafod gyda DCMS yngl欧n 芒'i hymrwymiad i gyllido darlledu drwy'r Gymraeg rhwng nawr ac Adolygiad Gwariant y Llywodraeth fis Mehefin.

"Mae'r adolygiad hwnnw'n effeithio ar gyfnod y tu hwnt i ymrwymiad ariannol presennol y llywodraeth i S4C - ar 么l 2015."

Ym mis Ebrill cyhoeddwyd bod cytundeb rhwng S4C a'r 麻豆官网首页入口 wedi ei gwblhau sy'n golygu bod y sianel yn derbyn y rhan fwyaf o'i chyllid o ffi'r drwydded deledu.

Hefyd gan y 麻豆官网首页入口

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol