麻豆官网首页入口

S4C: 'Pryder anferth'

  • Cyhoeddwyd
Huw Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Huw Jones yn bryderus yngl欧n ag oblygiadau'r adolygiad gwariant

Mae Cadeirydd Awdurdod S4C Huw Jones yn dweud bod bwriad y llywodraeth yngl欧n 芒 chyllido'r sianel yn peri "pryder anferth" iddynt.

Dywedodd fod yr Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller wedi canslo cyfarfod gydag o ac nad yw cyfarfod arall wedi ei drefnu er gwaethaf ei ymdrechion.

Mae'r AS Ceidwadol Glyn Davies wedi ategu pryder Mr Jones gan ddweud y dylai S4C gael ei thrin fel "achos arbennig" a na ddylai wynebu mwy o doriadau oherwydd ei r么l allweddol yn iaith a diwylliant Cymru.

Dyw adran Ms Miller ddim yn fodlon gwneud sylw nes mae cyhoeddiad y Canghellor George Osborne yngl欧n 芒 gwariant yn cael ei wneud ddydd Mercher.

Canslo cyfarfod

Mae Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, wedi dweud: "Mae'r Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi cytuno 芒'r Trysorlys y bydd eu cyllideb 8% yn llai.

"Wythnos yn 么l dywedodd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Lloegr ei fod yn fodlon ar gytundeb y byddai toriadau'n cael eu cyfyngu i 5%.

"Cafodd cyfarfod rhyngof i a'r Ysgrifennydd Diwylliant Maria Miller oedd fod i gael ei gynnal yr wythnos ddiwethaf ei ganslo...

"Er gwaetha' sawl cais dyw cyfarfod arall ddim wedi ei drefnu.

"Mae'r cyfuniad hwn o amgylchiadau a digwyddiadau yn peri pryder anferth i S4C am fwriadau'r Llywodraeth.

"Fe fyddwn yn parhau i geisio pob cyfle i sicrhau bod y llywodraeth yn ymwybodol o effaith bosibl eu penderfyniadau ar iaith, diwylliant ac economi Cymru."

'Dyfalu'

Yn y cyfamser, mae Teledwyr Annibynnol Cymru a Chymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Ms Miller, gan ddweud na ddylai'r sianel wynebu mwy o doriadau.

Ond nid yw adran Ms Miller yn fodlon gwneud datganiad nes mae'r cyhoeddiad ar gynlluniau gwario'r Trysorlys wedi cael ei wneud.

Dywedodd yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon: "... bydd y Canghellor yn gwneud datganiad am gynlluniau gwariant y llywodraeth ar gyfer 2015-16 yr wythnos nesaf.

"Ni allwn ni wneud sylw am unrhyw ddyfalu cyn y cyhoeddiad."

Ar raglen y Post Cyntaf fore Sadwrn dywedodd cyn brif weithredwr S4C Arwel Ellis Owen ei fod yn pryderu y gallai'r sianel ddod yn gwbl ddibynnol ar y ffi drwydded mae'n ei dderbyn gan y 麻豆官网首页入口.

"Dwi'n credu bod yna beryg mawr bydd y llywodraeth yn tynnu 拢6.7 miliwn yn 么l dydd Mercher o gyllideb S4C ac yn torri'r gadwyn rhwng arian o'r llywodraeth i'r sianel gan ei gadael wedi 2015 yn gwbl ddibynnol ar y ffi drwydded."

Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi dweud eu bod yn pryderu yngl欧n 芒'r posibilrwydd hwn.

Mewn llythyr wedi ei gyfeirio ar Maria Miller dywedodd Greg Bevan, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "S4C yw'r unig sianel iaith Gymraeg yn y byd.

"Gofynnwn i chi Weinidog i beidio 芒 gwneud toriadau pellach i gyllideb S4C. Byddai toriadau pellach i grant pitw y Llywodraeth yn peryglu bodolaeth y sianel.

"Credwn y dylech chi osgoi cyrraedd sefyllfa lle mae cyllideb S4C yn dibynnu yn gyfan gwbl ar benderfyniadau'r 麻豆官网首页入口 gan roi annibyniaeth y sianel mewn peryg .

"Galwn arnoch i osod fformiwla ariannu statudol a fyddai'n gosod gwaelodlyn i gyllideb S4C, a hynny erbyn yr adolygiad gwariant cynhwysfawr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol